Rhys Morgan Owen Evans
Enw llawn: Rhys Morgan Owen Evans
Dod yn wreiddiol: Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Prifysgol: Abertawe
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: Peirianneg Cemegol
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Mae Peirianneg Cemegol yn cyfuno fy hoff bynciau yn yr ysgol sef Mathemateg a Chemeg. Mae’n rhoi cyfle i mi ehangu fy sgiliau a dysgu sgiliau newydd.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Er mwyn fy ngalluogi i ehangu fy sgiliau iaith, a rhoi’r cyfleoedd ychwanegol imi ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol yn y gweithle.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy’r Gymraeg?
Mae’r dosbarthiadau yn llawer llai na’r darlithiau cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn creu profiad agos atoch a mwy personol. Mae hefyd yn caniatáu ichi ddod i adnabod eich tiwtoriaid yn well.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Nid oes unrhyw beth i boeni amdano o gwbl. Mewn sawl achlysur mae’n gwneud bywyd yn haws symud o’r chweched i’r Brifysgol os ydych yn astudio drwy’r Gymraeg!
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Fe wnes i ymgeisio i fod yn llysgennad y Coleg er mwyn gallu helpu disgyblion y chweched dosbarth i wneud dewisiadau am eu dyfodol ac i egluro iddynt pa fath o gyfleoedd sydd ar gael.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Bod yn rhan o grŵp arbenigol sy’n cael y siawns o astudio Peirianneg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Diddordebau hamdden?
Gwylio Abertawe yn y prif gynghrair a chwarae pêl-droed pump pob ochr efo fy ffrindiau.
Hoff bethau?
Chwaraeon, ffilmiau a mynd allan am fwyd (peth moethus ofnadwy os yn y brifysgol!)
Cas bethau?
Codi yn y bore
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Jonathan