10 peth am Faes B!
1. Bydd rhywun o hyd yn gorfod cysgu yn y car am fod rhywun wedi anghofio polion y babell!
2. Mae’r ddadl p’un ai’r Gogs neu’r Hwntws yw’r gorau yn un ddiflino!
3. Gorfod derbyn fod y rheolau’r un peth i bawb wrth orfod arllwys eich diodydd o boteli gwydr i rai plastig.
4. Gweddïo fod y Gorlan yn mynd i fod ar y safle, er mwyn prynu byrgyr caws am dri’r bore!
5. Gwisgo ‘dry shampoo’ am y 5ed diwrnod, heb unrhyw gywilydd.
6. Derbyn fod Gwilym Bandana yn adnabod pawb…dy’ch chi ddim tamaid gwell na’r gweddill!
7. Canu caneuon Cymraeg o amgylch y tân, wrth garu pawb a phopeth!
8. Teimlo fel saint wrth roi darn o bapur toiled i ddieithryn yn y portalw!
9. Gorfod instagramio llun ohonoch chi a’ch ffrindiau wrth ymyl blociau lliwgar ‘MAES B’!
10. Colli’r bribsyn olaf o’ch llais wrth i Yws Gwynedd gyrraedd y llwyfan!