£5000 i 2 ohonoch chi!
Helo a chroeso i fy mlog cyntaf! Mae’r dyddiad cau yn agosau erbyn hyn ac felly dwi am eich annog chi i wneud cais am ysgoloriaeth William Salesbury. Mae ysgoloriaeth William Salesbury ar gael i ddau berson yn unig ar draws Cymru gyfan! Fe all y bobl yma fod yn un ohonoch chi! Fues i yn ddigon ffodus i ennill yr ysgoloriaeth yma llynedd a hynny ar ôl i mi benderfynu taw man y man rhoi cais mewn gan fod ddim byd i’w golli ac yna derbyn llythyr yn dweud fy mod i wedi derbyn yr ysgoloriaeth!

Dwi ynghanol fy ail dymor yn astudio’r cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC ac yn sicr mi fydd yr arian yma’n gymorth anferth i mi. Dwi wedi treulio mwyafrif o’r tymor yma allan ar leoliad ac mae’r arian yn sicr yn help mawr wrth brynu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer y disgyblion a llyfrau ac mae’r arian yn gallu cyfoethogi addysg y plant ac yn sicr yn help mawr i mi.
Os oes ambell i geiniog sbâr gyda chi, dwi’n siŵr byddai’r arian yn help i brynu ambell i ddrinc yn yr undeb neu dalu am dacsi ar noson mas ac mae balans banc pob myfyriwr yn gallu edrych yn eithaf isel ar adegau a byddai’r arian yma’n sorto’r sefyllfa yma dwi’n siwr.
Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais a gweld yr holl gyrsiau cymwys, cliciwch y linc yma!
Cofiwch ddanfon cais erbyn yr 20fed o Fawrth!!!