Blas o fywyd fel athrawes

I’r myfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg maent yn trefnu profiad gwaith ar eich rhan. Gan fy mod yn lwcus o dderbyn y brif ysgoloriaeth, trefnwyd lleoliad yn Ysgol Gyfun Ystalyfera i mi. Mwynheais y profiad yn fawr iawn, dyma flas o’r hyn fues yn ei wneud.
Yn ystod fy lleoliad, cynhaliwyd yr ŵyl haf lle mae’r disgyblion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol.
Wythnos 1
Dydd Llun – Mercher: Beth yw bod yn Gymro?
Aethom ar daith gyda bl. 7 i Barc y Scarlets i ddysgu sut y rhedir stadiwm.
Yn dilyn ein taith, gofynnwyd i’r plant gwblhau amrywiaeth o dasgau gan gynnwys dylunio stadiwm yn Ystalyfera a chystadleuaeth côr.
Dydd Iau: Gwersi arferol a chefais y cyfle i arsylwi ar wersi Cymraeg gyda sawl blwyddyn o wahanol alluoedd.
Dydd Gwener: Diwrnod ymweld blwyddyn 6. Helpais gyda’r wers Gymraeg. Roedd y plant yn ysgrifennu cerddi acrostig ac yn creu cylch allwedd.
Wythnos 2
Dydd Llun – Mawrth: Astudiaethau Crefyddol (Bl. 8)
Dydd Llun: Roeddem yn dysgu am Fwslemiaid a Ramadan trwy goginio bwydydd traddodiadol y mis.
Dydd Mawrth; Ymwelom â theml Hindŵaidd a theml Fwdhaidd i ddysgu mwy am eu credoau a’u traddodiadau.
Dydd Mercher: Ailymunais â’r grŵp o wythnos 1 ar daith i amgueddfa werin Cymru.
Dydd Iau: Gwersi arferol ac arsylwais ar wersi Mathemateg, eto, blynyddoedd gwahanol a galluoedd gwahanol.
Dydd Gwener: Diwrnod HMS. Dilynais staff yr adran Fathemateg ar y diwrnod, yn gwylio’r dasg “speed dating”, a gwrando ar sgyrsiau ysbrydoledig.
Dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Mae e wedi cryfhau fy awydd i fod yn athrawes, ac rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf!