Cyfle i roi wyneb i’r enw!
Helo pawb a chroeso i fy mlog cyntaf! Rwy’n gyffrous iawn i gael rhannu fy mhrofiadau o fod yn un o lysgenhadon y Coleg Cymraeg efo chi a gobeithio y gallaf eich cynorthwyo ar eich taith drwy Addysg Uwch yn y Gymraeg.
Am gyfle i roi wyneb i’r enw? Dewch i gwrdd â mi yn ffair UCAS ar y 22ain o Fawrth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
Mae’r ffair yn gyfle i chi gael ymweld â stondin y Coleg a chael sgwrs anffurfiol gyda ni y Llysgenhadon ynghylch opsiynau o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd siarad mewn seminarau yn y ffeiriau am:
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg, gwerth hyd at £5000
|
Aelodaeth y Coleg
|
Manteision astudio yn y Gymraeg
|
Clipiau fideo o fyfyrwyr a chyflogwyr
|
Prosbectws y Coleg
|
Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
|
Chwilotydd cyrsiau ac Ap newydd y Coleg
|
Profiad gwaith
|
Mae hefyd yn gyfle i chi dderbyn copiau o Brosbectws Israddedig 2017 y Coleg am ddim! Felly plis plis dewch i’n holi ni a derbyn llwyth o freebies!
Bydd y Coleg a’r llysgenhadon hefyd yn mynd i’r ffeiriau UCAS eraill ar draws Cymru:
21 Mawrth ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam
23 Mawrth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
15 Mehefin ym Mhrifysgol Bangor
Welwn ni chi ddiwedd y mis!
2 Sylw
Edrych ynlaen i weld ti yn y ffair Ucas Poppy! #cyffrous
Byddaf fi yn y ffair UCAS yng Nghaerdydd dydd Mercher! Ti’n edrych ‘mlaen? Dwi’n edrych ymlaen at weithio ar stondin y coleg! #LlaisLlysgennad