Deian Thomas
Dod yn wreiddiol: Pumsaint
Ysgol/Coleg: Coleg Sir Gâr a Choleg Castell Nedd Port Talbot
Prifysgol: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: BA Perfformio
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Gan fy mod yn hoff iawn o ganu ac actio
Pam dewis astudio trwy’r Gymraeg: Oherwydd Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rydw i’n fwy cyfforddus yn y Gymraeg.
Beth yw’r peth gorau am astudio trwy’r Gymraeg: Bod fy Nghymraeg yn gwella o hyd
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Peidiwch poeni, mae yna ddigon o help ar gael gyda’r iaith.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad: Er mwyn cyfarfod pobl sydd yn frwdfrydig am wneud y cwrs trwy’r Gymraeg.
Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod mewn prifysgol yng Nghymru: Y gymdeithas glos sydd yn y brifysgol a’r teimlad o fod yn rhan o un teulu mawr.
Diddordebau hamdden: Rygbi, canu, ffermwyr ifanc, bod yn ddwl, gwaith coed.
Hoff bethau: Bwyd a ffilmiau.
Cas bethau: Nadroedd!
Hoff raglen / ffilm Gymraeg: Y Gwyll a Nyth Cacwn.
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch: Dwi’n saer ac asiedydd.