Hanna Lois Jones

Enw llawn: Hanna Lois Jones

Dod yn wreiddiol: Corwen, Sir Ddinbych

Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Blwyddyn: 2

Cwrs prifysgol: Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ag Ymarfer

Pam dewis astudio’r pwnc gradd:

Rwyf wedi bod yn athletwraig ac yn ferch actif iawn erioed. Rwyf yn parhau i fynychu gwersi dawnsio ac wedi dechrau ers yn ddwy ac wedi cystadlu yn unigol ac mewn grŵp yn Eisteddfod yr Urdd â’r Genedlaethol yn flynyddol. Bues i’n cynrychioli fy ysgol gynradd ac ysgol uwchradd mewn cystadleuthau athletau, pel-rwyd, rygbi tag, pel-droed a hoci yn ogystal a chwarae hoci i dîm merched Rhuthun ac i dîm o dan 16oed Ysgol Brynhyfryd, gan lwyddo i chwarae yn Abertawe i gynrychioli Gogledd Cymru. Roeddwn eisiau ehangu fy ngallu a fy nealltwriaeth o’r  pwnc gan obeithio cyflawni fy ngôl o weithio i’r Urdd neu gweithio fel athrawes addysg gorfforol yn y dyfodol. Rwyf eisiau rhannu fy mhrofiad dros y blynyddoedd efo plant a phobl ifanc gan eu hybu hwythau i fod yn heini ac actif. Ar hyn o bryd, rwyf yn gwirfoddoli gyda rhaglen Track and Field Athletwyr Mennai, Bangor ac hefyd gyda Chwaraeon y Ddraig mewn ysgol Gynradd ym Mangor sydd yn rhoi’r cyfle i mi gael rhagflas ar y swyddi sydd ar gael fel athrawes, rhedwr clwb ac hyfforddwraig.

Pam dewis astudio yn y Gymraeg:

Rwyf yn falch o fod yn Gymraes. Mae’r gallu i fod yn ddwyieithog yn hynod o bwysig ac yn rhoi cyfleoedd arbennig i mi fel unigolyn mewn amryw o weithleoedd. Byddaf yn gallu dangos i gyflogwyr fy mod wedi astudio pob modiwl posibl drwy’r iaith Gymraeg a fy mod yn hynod gyfforddus efo astudio drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy’r Gymraeg:

Caf y cyfle i fod yn rhan o ddosbarth llai sy’n llawer mwy pleserus. Mae’n haws i mi gyfrannu o fewn y grŵp sydd ag awyrgylch clos. Rydym fel criw yn gweithio gydag un darlithwraig yn benodol ac felly rydym wedi creu perthynas gartrefol a hwylus gyda hi. Gydag unrhyw waith, gallaf ofyn am gymorth ac arweiniad ganddi.

Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg…

Doeddwn i ddim yn poeni am astudio’n Gymraeg -roeddwn yn poeni na fuasai safon fy Saesneg cystal â’r myfyrwyr iaith gyntaf Saesneg ar y cwrs gan mai nhw yw’r mwyafrif o’r myfyrwyr, ond wedi i ni fel criw ddod yn ffrindiau ac eistedd efo’n gilydd mewn darlithoedd, rydym yn cael y rhyddid i drafod efo’n gilydd a gweithio fel un. Felly, i unrhyw un sydd yn poeni am astudio cwrs sydd mewn gwirionedd yn Saesnig, fe ddaw y darlithwyr Cymraeg o hyd i chi yn ogystal â Swyddog Cangen Coleg Cenedlaethol Cymraeg y Brifysgol hefyd ac fe fyddwch yn datblygu perthynas cyfforddus gyda nhw.

A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham? (os ydych wedi derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg yn unig)

Buaswn yn bendant! Mae gymaint o gyfleoedd yn dod ohono fel y cyfle i dderbyn Tystysgrif Sgiliau Iaith. Bydd hwn yn edrych yn wych ar eich CV ac yn gwneud i chi sefyll allan fel unigolyn. Dim pawb  sy’n gallu dweud eu bod wedi derbyn ysgoloriaeth o unrhyw fath gan y Coleg Cymraeg felly ewch amdani bois, cyfle arbennig!

Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato ar gyfer bod yn llysgennad:

Ymgeisiais er mwyn helpu annog myfyrwyr a phobl ifanc i barhau a dewis gwneud rhan o’u cwrs/y  cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Maen gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth am y Coleg Cymraeg a’r cyrsiau sydd ar gael. Edrychaf ymlaen at ddysgu sgiliau ac i gymdeithasu yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd a chael profiad bythgofiadwy.

Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol (yng Nghymru)

Dwi’n hynod o falch o’r neuaddau iaith Gymraeg sydd ym Mangor. Dyma oedd un o’r prif resymau mai Bangor oedd fy newis cyntaf. Dwi wedi gwneud ffrindiau am oes yn bendant, ac rwyf yn sicr am eu gweld wedi i ni adael y brifysgol gan ein bod yn griw gwych ac wedi dod yn griw agos iawn o ffrindiau. Mae gan y Brifysgol gymdeithas Gymraeg cyfeillgar iawn sydd yn help i fyfyrwyr ymgartrefu yn y neuaddau. Rydym hefyd yn cael nosweithiau allan fel criw Cymraeg ac mae thema bob tro er enghraifft, nosweithiau clwb Cymru a meic agored.

Diddordebau hamdden:

Rwyf yn byw ac yn bod ar y ffarm efo Taid ac wrth fy modd yn ffermio’r defaid, gwartheg, hwyaid a chwn defaid. Ar y ffarm mae gennyf ddiadell o ddefaid duon Cymreig ac rwyf bellach wedi dechrau gyda’r defaid Balwen gyda’r gobaith o’u dangos mewn sioeau yn yr haf. Mae gennyf bum ceffyl yr wyf yn eu marchogaeth ac yn eu dangos, mewn llaw, mewn sioeau lleol yn ogystal â bod yn rhan o dîm marchogaeth y Brifysgol, ac felly yn parhau i gystadlu mewn showjumping a dressage. Rwy’n dawnsio ers yr oeddwn yn ddwy oed, rwyf yn dawnsio disco/stryd mewn eisteddfodau a hefyd rwyf yn dawnsio ballet, pointe a tap. Fy mhrif chwaraeon yw hoci, athletau, pêl-rwyd a phêl-droed ac rwyf wrth fy modd yn cystadlu fel rhan o dîm, fel unigolyn ac yn cael y profiad o drafeilio i dwrnamentau a chystadlaethau. Rwyf yn ferch gerddorol hefyd, yn chwarae’r ffliwt, piano a ffidil yn ogystal â chanu.

Hoff bethau:

Fel merch ffarm, wrth gwrs fy mod yn mwynhau’r Sioe Frenhinol yn arw, y ffair Aeaf a sioeau mawr eraill a sioeau bach lleol. Credaf ei bod yn bwysig iawn cefnogi sioeau bach lleol. Edrychaf ‘mlaen at bob cyfle o fynd efo Taid i’r sêl i werthu wyn, dim ots pa mor gynnar yn y bore! Rwyf yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled ac yn aelod o Aelwyd Llangwm. Rwyf yn hoff iawn o fynd am dro i dreialon cwn defaid efo Taid, gan obeithio rhyw ddiwrnod y byddaf yn gallu cystadlu efo ci fy hun -cystal ag oedd Taid yn cystadlu ers talwm. Rwyf wrth fy modd yn mynd i ‘Steddfod yr Urdd a’r Genedlaethol ac wrth gwrs, Maes B!

Cas bethau:

Pobol yn clicio’u bysedd, ych ma’n mynd drwyddai!!!

Hoff raglen / ffilm Gymraeg:

Cefn Gwlad, Ffermio, Pobl y Cwm, Rownd a Rownd, C’mon Midffild

Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch!:

Eisteddaf efo Taid bob Nos Sul yn y gegin yn gwrando ar raglen Dai Jones Llanilar a John ac Alun ar y radio. Rwyf hapusa’ ar y llawr dawnsio mewn clwb nos nag ydw’i yn downio ‘run diod!