Heledd Roberts
Dod yn wreiddiol: Llangadog
Ysgol/Coleg: Ysgol Gyfun Tregib
Prifysgol: Prifysgol Cymru Y Drindod, Dewi Sant
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: BA Perfformio (Caerdydd)
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Roeddwn eisiau ehangu fy sgiliau perfformio a dilyn gyrfa lwyddiannus yn y maes actio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pam dewis astudio trwy’r Gymraeg: Mae mwy o gyfleoedd yn y diwydiant i siaradwyr Cymraeg, rwyf hefyd yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth astudio trwy’r Gymraeg.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs trwy’r Gymraeg: Gallu cymdeithasu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda phobol ifanc sydd â’r un diddordebau â mi.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Does dim angen poeni o gwbl am eich iaith. Mae yna ddigon o help a chyngor ar eich cyfer chi!
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad: Gwnes i ymgeisio oherwydd teimlaf fod gennyf nifer o bethau i’w cynnig i’r Coleg Cymraeg ac edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda ieuenctid Cymru. Teimlais ei fod yn gyfle na allaf ei wrthod.
Beth da chi’n mwynhau fwyaf o fod mewn prifysgol yng Nghymru: Dwi’n teimlo yng nghanol bwrlwm bywyd myfyriwr yng Nghaerdydd ac yn joio pob eiliad. Ond un o’r pethau gorau yw ei fod yn costio llai.
Diddordebau hamdden: Canu, actio, rhedeg, siopa, mynychu’r theatr.
Hoff bethau: Primark (ideal ar gyfer myfyriwr), chicken nuggets, malibu, Nadolig, Bela (fy nghi).
Cas bethau: Sweetcorn, y glaw, helpu dad gyda’r defaid.
Hoff raglen / ffilm Gymraeg: Pobol y Cwm / Martha, Jac a Sianco.
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch: Bues allan yn Nepal yn gwirfoddoli am 4 wythnos dros yr haf i helpu gyda chymunedau. Hefyd, enillais gadair yr eisteddfod pedair gwaith yn olynol.