Huw Jones
Enw llawn: Huw Llywelyn Jones
Dod yn wreiddiol: Llangernyw
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Dyffryn Conwy
Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: Daearyddiaeth
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Gan fy mod yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac mae’r Gymraeg yn dod yn naturiol i mi mae astudio drwy’r iaith yn well gennaf, felly rwy’n hyderus i barhau a fy addysg drwy’r Gymraeg
Pam dewis astudio yn y Gymraeg: Yn yr ysgol roeddwn yn astudio Daearyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae cael y cyfle yma i gario’n mlaen i astudio fy hoff bwnc yn y ddwy iaith yn wych.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy’r Gymraeg: Mae’n galluogi i chi neud ffrindiau newydd ac mae grwpiau Cymraeg gymaint yn llai felly mae’n galluogi ni fel grŵp i drafod a chael mwy o afael ar syniadau a chanfyddiadau gwahanol. Hefyd mewn darlithoedd Saesneg mi fedrwch fod mewn ystafell o 100 neu fwy o bobl yno.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Does dim i boeni amdano! Mae astudio drwy’r Gymraeg mewn prifysgol yn agor llawer iawn o ddrysau i swyddi yng Nghymru ac yn Rhyngwladol gan ei fod yn dangos bod gennych fwy i gynnig.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham? Wrth gwrs! Pam ddim? Cael arian am ddim yn astudio yn eich iaith gyntaf, pam fod hyn yn gwestiwn?! Mae’r arian ychwanegol yma drwy’r ysgoloriaeth yn hanfodol i brynu llyfrau ac adnoddau hanfodol i astudio.
Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato ar gyfer bod yn llysgennad: Mae bod yn llysgennad yn galluogi i mi roi’n ôl i’r Coleg, ac i ddweud diolch mewn ffordd am y cyfleoedd newydd yr wyf yn ei gael. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint o fyfyrwyr yn ymwybodol o waith y coleg a’r opsiynau sydd ar gael.
Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol (yng Nghymru)? Yn Aberystwyth dwi ddim rhy bell na rhy agos i adref, doeddwn i ddim eisiau byw o fewn dinas gan nad oedd yn apelio a’r holl brysurdeb 24/7. Hefyd doeddwn i ddim eisiau colli fy ngwreiddiau yn symud i ardaloedd lle tydi’r iaith ddim yn bodoli.
Diddordebau hamdden: Mynd i’r ganolfan hamdden, chwarae rygbi, pêl-droed a thenis bwrdd.
Hoff bethau: Chwarae ac ysgrifennu cerddoriaeth i’r Ukulele ac yn mwynhau chwaraeon o bob math.
Cas bethau: Gwneud pethau funud olaf (ond dwi dal i weld fy hun yn gwneud hyn!!)
Hoff raglen: Lucifer ar AmazonPrime