Iolo Roberts
Enw llawn: Iolo Roberts.
Dod yn wreiddiol: Llangadog
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Bro-Dinefwr
Prifysgol: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Caerfyrddin)
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: BA Addysg Gynradd gyda SAC
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Penderfynais ddilyn y cwrs yma oherwydd credais ei bod yn mynd i roi sialens i mi. Mae’r byd addysg yn lle rydych wir yn gallu cael effaith bositif ar fywydau plant, trwy astudio’r cwrs â pharhau i yrfa yn y maes, byddaf yn cael y cyfle i helpu plant i gael y dechrau gorau bosib yn eu bywydau.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg: Yn bersonol, ni feddyliais ddwy-waith cyn penderfynu dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, gan fy mod wedi dilyn addysg trwy’r cyfrwng fy mamiaith ers yn y meithrin. Yn ogystal â hyn mae dilyn cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ngalluogi i ddysgu mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg hefyd, fydd yn ehangu fy ngorwelion hyd yn oed ymhellach.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs trwy’r Gymraeg: Heb os nag oni bai, y peth gorau yw’r ffrindiau rwyf wedi eu gwneud ar y daith hyd yma. Mae astudio gyda Chymru Cymreig yn rhywbeth ni allwch gymharu dim ag o, mae’n rhoi cyfle i mi siarad a chymdeithasu yn y Gymraeg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Peidiwch a phoeni am astudio yn y Gymraeg. Mae wir yn agor drysau i chi o fewn eich prifysgol ac yn y gymuned ehangach.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?: Rwy’n erfyn ar bob ymgeisydd sy’n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaethau i ymgeisio amdanynt. Mae’n llawer o gymorth i gael arian ychwanegol yn eich cyfrif banc, credwch chi fi!
Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato ar gyfer bod yn llysgennad: Rwyf yn dilyn cwrs addysg ac yn hoff iawn o wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl o fy amgylch. Teimlaf yn gryf fod angen gwthio’r iaith ar lefel gymdeithasol law yn llaw gydag iaith ar lefel academaidd.
Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol (yng Nghymru): Yn bersonol y peth gorau yw’r bobl o’ch amgylch. Mae prifysgol yn rhoi gymaint o brofiadau i chi cymerwch fantais ohono, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud gymaint ag y gallwch yn eich cyfnod yn y brifysgol, nid yw’n para am byth.
Diddordebau hamdden: Rwy’n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Llandeilo ac yn hoff iawn o chwarae ar y penwythnosau. Hefyd yn aelod brwd o glwb ffermwyr ifanc Llangadog, Sir Gâr.
Hoff bethau: Gwylio ffilmiau a gwneud gweithgareddau allanol fel paintballing!
Cas bethau: Colli, rwy’n berson cystadleuol iawn!
Hoff raglen / ffilm Gymraeg: Y Gwyll
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch!: Dwi’n gweithio’n rhan amser fel cigydd.