Jennifer Collins
Enw llawn: Jennifer Collins
Dod yn wreiddiol: Porth Tywyn
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun y Strade, Coleg Gorseinon ar gyfer cwrs mynediad
Prifysgol: Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Abertawe
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: BA Rheoli Digwyddiadau
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Rwy’n hoff iawn o drefnu pethau, yn enwedig digwyddiadau. Hoffwn redeg fy musnes fy hun yn y dyfodol ond cyn hynny mae angen i mi ennill profiad.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Cymraeg yw fy iaith gyntaf, ac roeddwn yn ddisgybl mewn ysgolion Cymraeg.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy’r Gymraeg?
Rwy’n derbyn llawer o gymorth gan y darlithwyr oherwydd bod llai o fyfyrwyr yn y dosbarth.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Roeddwn i’n poeni, a minnau’n fyfyrwraig hŷn, bod llawer o amser wedi bod ers i mi adael yr ysgol, ond does dim angen poeni, mae digon o gymorth ar gael. Erbyn hyn rwy’n teimlo i mi fod yn ysgrifennu yn y Gymraeg ers blynyddoedd.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Byddwn, mae’n swm da o arian ychwanegol am gwblhau eich gwaith yn eich iaith gyntaf.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Byddwn yn annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn ennill profiad o ddefnyddio’r Gymraeg, ac er mwyn cwrdd â llawer o bobl.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Dysgu pethau newydd bob dydd am reoli digwyddiadau – y pwnc y mae gennyf gymaint o angerdd a brwdfrydedd tuag ato.
Diddordebau hamdden?
Mynd i’r gampfa a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.
Hoff bethau?
Gwylio ffilm gyda fy nheulu ar ddydd Sul
Cas bethau?
Aseiniadau
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Y Gwyll, neu unrhyw ddrama heddlu
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Rwy’n fam i bedwar o blant. Hefyd, rwy’n rhedeg y gangen Brownies leol lle rwy’n chwarae rhan Brown Owl.