Lauren-J Cole
Enw llawn: Lauren-J Cole
Dod yn wreiddiol: Abertawe
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Prifysgol: Prifysgol De Cymru
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: Ba Marchnata
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hyrwyddo a rheoli busnesau, yn ogystal â seicoleg a T.G.Ch ac felly roedd y cwrs hwn yn berffaith gan ei fod yn canolbwyntio ar bob un o’r meysydd hynny.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi, yn enwedig o fewn y byd gwaith. Yn ogystal â hyn mae’r bywyd cymdeithasol sy’n mynd ochr yn ochr ag astudio yn Gymraeg yn fywiog ac yn perthyn i gymdeithas glòs. Dwi ddim yn dod o deulu Cymraeg ei iaith ac felly roedd dewis astudio’n Gymraeg yn fy helpu i gynnal fy sgiliau Cymraeg.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy’r Gymraeg?
Mae’r darlithoedd yn llai ac mae’n rhoi mwy o gyfle i chi drafod gyda’ch darlithydd, yn ogystal â dod i adnabod cyd-fyfyrwyr a chreu ffrindiau agos.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Byddwn yn annog pawb i geisio astudio yn y Gymraeg gan ei fod yn rhoi cyfle i chi barhau i ymarfer yr iaith o gwmpas eraill sydd hefyd yn ceisio gwella eu hiaith. Nid oes angen i’ch Cymraeg fod yn berffaith i astudio yn Gymraeg gan fod cymaint o gymorth ar gael i’ch helpu. Mae’n gyfle gwych i ddod yn rhan o gymdeithas gyfeillgar lle gallwch wneud cynnydd ar gyflymder sy’n siwtio chi.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Byddwn bendant yn annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg. Mae’n help mawr wrth astudio yn y brifysgol fel myfyriwr. Mae’n eich helpu i brynu adnoddau dysgu a chyfrannu tuag at gostau eich bywyd pob dydd. Mae unrhyw arian ychwanegol yn help enfawr yn y brifysgol.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Fe wnes i ymgeisio i fod yn Llysgennad er mwyn ceisio helpu rhoi hyder i bobl ifanc eraill sydd efallai’n teimlo na allant astudio drwy’r Gymraeg ac i fod yn rhan o rywbeth sydd gobeithio yn mynd i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Y peth dwi’n ei fwynhau mwyaf am fod yn y brifysgol ar hyn o bryd yw dysgu sut i ymdopi a byw ar fy mhen fy hun. Er bod Mam a Dad wastad ochr arall y ffôn, mae’n gyffrous ac yn ddiddorol blasu’r rhyddid a rheoli fy mywyd fy hun. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â llawer o bobl o bob cwr o’r byd a dysgu am eu profiadau nhw.
Diddordebau hamdden?
Rwy’n hoffi mynd siopa ac am goffi gyda ffrindiau yn ogystal a rhwyfo gyda thîm y brifysgol. Rydw i hefyd yn hoffi ymweld â llefydd newydd a gweld prif atyniadau dinasoedd gwahanol.
Hoff bethau?
Cerddoriaeth, ymweld â llefydd newydd, cerdded, coginio a rhwyfo.
Cas bethau?
Rwy’n casáu’r gaeaf a chodi’n gynnar yn y bore am ddarlithoedd.
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Mynydd Grug. Astudiais i’r ffilm am TGAU a roeddwn ni wedi hoffi ei ddadansoddi.
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Mae gen i wallt coch yn naturiol ac rwy’n ofn cerdded lawr bryniau serth. Roeddwn i arfer marchogaeth a phe byddai gliter yn lliw, dyna yn sicr fyddai fy hoff liw i.