Lisa Penfold
Enw llawn: Lisa Penfold
Dod yn wreiddiol: Mynachlog-ddu, Sir Benfro
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun y Preseli
Prifysgol: Abertawe
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: Y Gyfraith
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Fe fues i ar brofiad gwaith yn ystod blwyddyn 12 gyda chyfreithwraig ac roeddwn i’n gwybod ar ôl hynny fod y maes cyfreithiol o ddiddordeb mawr i mi ac yn rhywbeth roeddwn i’n bendant eisiau gwneud fel swydd yn y dyfodol. Hefyd, mae gen i ddiddordeb ers blynyddoedd mewn rhaglenni dogfen gyfreithiol e.e. Trevor McDonald, ‘Inside Death Row.’
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Cymraeg yw’r iaith sy’n dod yn naturiol i mi. Dwi’n siarad Cymraeg gartref a gyda rhan fwyaf o fy ffrindiau ac felly byddai’n ffôl i mi wrthod y cynnig i astudio yn fy mamiaith. Rydw i’n ymwybodol bod angen mwy o siaradwyr Cymraeg yn y maes cyfreithiol ac felly rydw i’n ffyddiog y bydd bod yn rhugl a gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol i mi wrth chwilio am swydd yn y dyfodol.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy’r Gymraeg?
Mae’r seminarau Cymraeg wedi bod o fudd mawr i mi; mae’r grwpiau’n llai, yn agos atoch, ac rydw i’n teimlo’n fwy hyderus i ddatgan barn a chynnig syniadau. Yn ogystal, mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd sy’n rhannu’r un diddordebau ac yn gwneud yr un cwrs. Mae’n gyfle i ehangu cylch ffrindiau ac rydych chi’n gallu cymdeithasu drwy’r gweithgareddau a drefnir gan yr Adran yn ogystal â’r Gymdeithas Gymraeg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Yn bendant does dim angen poeni! Mae astudio yn y Gymraeg yn hynod o fanteisiol, mae’r tiwtoriaid yn dod i’ch adnabod yn bersonol ac yn barod i gynnig help llaw ar unrhyw adeg.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Un anfantais am fywyd yn y brifysgol yw prinder arian, felly mae’r help llaw ariannol yn gymorth gwerthfawr! Fe fues i’n ffodus i dderbyn yr ysgoloriaeth cymhelliant a oedd yn werth y byd.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Rydw i’n edrych ymlaen i fod yn llysgennad er mwyn cael profiadau newydd ac rwy’n obeithiol y byddaf yn magu a datblygu sgiliau ymhellach, e.e. siarad yn gyhoeddus. Un o’r rhesymau dros ymgeisio oedd y cyfle i gwrdd â phobl newydd ynghyd â gweithio gyda myfyrwyr tebyg i mi o brifysgolion arall Cymru. Hefyd mae’n gyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r Coleg Cymraeg fel arwydd o werthfawrogiad am yr holl gefnogaeth.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Un o’r pethau sy’n sefyll mas i fi yw’r teimlad cartrefol yn y Brifysgol, yn enwedig o fewn y gymdeithas Gymraeg.
Diddordebau hamdden?
Treulio amser gyda theulu a ffrindiau, siopa, gigiau a cherddoriaeth Gymraeg, a theithio.
Hoff bethau?
Game of Thrones, cinio dydd Sul Mam, Caio (fy nghi) a chefnogi Cymru yn y pêl-droed a’r rygbi.
Cas bethau?
Bod yn hwyr i lefydd a gorfod mynd â’r ci am dro yn y glaw!
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Y Gwyll a Rownd a Rownd.
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Rydw i wrth fy modd yn teithio ac mae gen i restr hir o lefydd yr hoffwn ymweld â hwy. Rydw i wedi bod yn ffodus cael ymweld â Phatagonia gyda’r Urdd, a theithio i America bedair gwaith ers 2012.