Lleu Bleddyn
Enw llawn: Lleu Bleddyn
Dod yn wreiddiol: Llanbrynmair
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Bro Hyddgen
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Blwyddyn: 1af
Cwrs prifysgol: Cymraeg a Newyddiaduraeth
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Mi fyswn i’r cyntaf i gydnabod nad oedd dewis pwnc gradd yn ddewis hawdd i mi, ac felly rwy’n gallu uniaethu ag unrhyw un sydd yn gweld y dewis yn un eithriadol o anodd. Er hyn, wedi i mi ymweld â’r adran Gymraeg a’r adran Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd ar ddiwrnodau agored roeddwn yn gwybod yn iawn mai dyma oedd y cyfuniad i mi. Roedd y radd yma yn fodd i mi ddatblygu sgiliau ieithyddol a dysgu mwy am y Gymraeg, ynghyd â dysgu am fyd newyddiaduraeth – a thrwy hyn, gyfuno’r ddau bwnc.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Gan imi gael fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg roedd hi’n gam naturiol i mi fynd ymlaen i astudio fy nghwrs addysg uwch yn fy mamiaith. Nid yn unig mae’r Gymraeg yn cael ei chydnabod yn sgil gwerthfawr, ond hefyd, yn agor drysau i gyfleoedd di-ri.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy’r Gymraeg?
Mae ansawdd y ddarpariaeth Gymraeg sydd yn cael ei gynnig ar gyfer fy nghwrs yn wych, a chymorth darlithwyr yr ysgol Newyddiaduriaeth a’r ysgol Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn anhygoel. Mae rhannu darlithoedd gyda siaradwyr Cymraeg yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus ac yn fy mharatoi ar gyfer gweithle’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Yn gyntaf byddwn i’n gofyn i chi beth yn union sydd gennych i boeni amdano? Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol does ‘na’r un adeg wedi bod yn well i chi fanteisio ar y ddarpariaeth Gymraeg a hynny mewn ystod o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru. Ewch amdani, nid yn unig y mae’n hwyluso’ch profiad yn y brifysgol ond yn agor cymaint o ddrysau i chi wedi’ch cyfnod yn y brifysgol.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Er mai dim ond tymor rydw i wedi bod yng Nghaerdydd mae’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer fy nghwrs wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol. I mi, mae bod yn llysgennad yn gyfle nid yn unig i roi rhywbeth yn ôl i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond er mwyn hyrwyddo ei werth ar gyfer darpar fyfyrwyr dros y flwyddyn nesaf.
Beth ydych chi’n mwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol (yng Nghymru?
Nid yn unig mae byw yng nghanol bwrlwm Prifddinas Cymru yn uchafbwynt mawr i mi, ond mae’r cyfle i gymdeithasu gyda chyd-Gymry mewn cymdeithasau fel y Gymdeithas Gymraeg yn rhywbeth sy’n gwbl unigryw. Rwyf wedi cael cyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill o bob rhan o Gymru, a chael cymdeithasu gyda nhw a chreu cymuned o ffrindiau da.
Diddordebau hamdden?
Rydw i’n chwarae fel mewnwr i dîm cyntaf Clwb Rygbi Llanidloes, ac yn aelod o dîm rygbi GymGym Prifysgol Caerdydd.
Hoff bethau?
Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn teithio, ac yn ymddiddori mewn traddodiadau gwledydd eraill, a chwrdd a chymdeithasu â phobl o bob cwr o’r byd.
Cas bethau?
Wyau a madarch– felly peidiwch cynnig ‘omlette’ i fi!
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
C’mon Midffîld!
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Dwi wedi neidio oddi ar bont bynji uchaf y byd.