Llio Martha Alun
Enw llawn: Llio Martha Alun
Dod yn wreiddiol: Abergele
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Y Creuddyn
Prifysgol: Prifysgol De Cymru
Blwyddyn: Gyntaf
Cwrs prifysgol: Theatr a Drama
Pam dewis astudio’r pwnc gradd: Drama oedd yr unig beth a oedd yn ennyn fy niddordeb yn yr ysgol! Mae gennyf frwdfrydedd ar gyfer pob agwedd o fyd theatr, a mae’n fy nghyffroi i feddwl y byddwn i’n gallu ei wneud fel gyrfa yn y dyfodol.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg: Mae astudio yn Gymraeg yn helpu i gael cyswllt cryfach hefo’r gymdeithas Gymraeg ehangach o fewn y Brifysgol, ac hefyd yn helpu i mi fagu a gwella fy sgiliau ieithyddol.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy’r Gymraeg: Dosbarthiadau llai sy’n golygu mwy o amser yn unigol hefo’r tiwtor.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio trwy’r Gymraeg: Mae’r gefnogaeth bob amser ar gael er mwyn sicrhau eich bod chi’n hollol gyfforddus ac hyderus yn eich gwaith.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham? (os ydych wedi derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg yn unig): Byddwn; mae ymgeisio yn hawdd a mae’r buddion yn wych, does gennych chi ddim byd i’w golli.
Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ‘dych chi’n edrych ymlaen ato ar gyfer bod yn llysgennad: Ymgeisiais ar gyfer bod yn llysgennad gan fy mod i eisiau ehangu fy ngorwelion o fewn fy mhrofiad o fod yn y Brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen at cael profiadau newydd a chyfarfod pobl newydd.
Beth da chi’n fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol: Y bywyd cymdeithasol!
Diddordebau hamdden: Karate, peintio, a ysgrifennu.
Hoff bethau: Cathod, Nutella, a Ravioli.
Cas bethau: Llefrith, Pryfaid Cop, a Choffi.
Hoff raglen / ffilm Gymraeg: Un Bore Mercher.