Mared Eswen Jones
Enw llawn: Mared Eswen Jones
Dod yn wreiddiol: Y Fron, pentref bychan yn ardal Dyffryn Nantlle.
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Dyffryn Nantlle
Prifysgol: Prifysgol Bangor
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: Nyrsio Oedolion
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Penderfynais astudio Nyrsio oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y maes ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Pan oeddwn yn y chweched dosbarth cefais gyfle i fynd ar brofiad gwaith gyda nyrs ymarfer mewn meddygfa. Roeddwn yn gwybod ar ôl wythnos llawn profiadau gwych mai dyma oedd yr yrfa i mi.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Dwi ‘di derbyn fy addysg gynradd ac uwchradd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg a phan glywais fod modd i mi astudio fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg roedd hyn yn gysur mawr i mi. Cymraeg yw’r iaith rwyf fwyaf hyderus yn ei siarad ac ysgrifennu ac roedd gwybod fy mod am allu parhau i ysgrifennu aseiniadau a gwneud cyflwyniadau llafar yn fy iaith gyntaf yn bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy’r Gymraeg?
Cael cefnogaeth Cymraeg ar ôl y prif ddarlithoedd mewn seminarau sydd yn galluogi i mi ofyn cwestiynau am rannau o’r cwrs mewn iaith rwyf yn gyffyrddus yn ei siarad.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Peidiwch â phoeni dim. Mae cefnogaeth wych ar gael gan staff y Coleg Cymraeg o fewn y Brifysgol. Mae’n gyfle gwych nid yn unig yn y Brifysgol ond hefyd pan fyddech yn ymgeisio am swydd yn y dyfodol gan gynnwys cymhwyster ychwanegol y Tystysgrif Sgiliau Iaith i roi ar eich CV. Bydd dangos eich bod wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddefnyddiol iawn yma yng Nghymru. Ewch amdani!
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Buaswn! Dwi’n ffodus iawn o fod wedi derbyn y brif ysgoloriaeth sef £3000 gan y Coleg Cymraeg sydd yn fuddiol iawn i mi. Mae’n gyfle i astudio yn eich iaith gyntaf ac mae cymorth ariannol i’ch helpu!
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Fe wnes i ymgeisio i fod yn llysgennad oherwydd fy mod i eisiau rhannu fy mhrofiadau cadarnhaol gyda myfyrwyr eraill sydd yn poeni am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf hefyd eisiau sôn wrth fyfyrwyr am gymhwyster ychwanegol mae’r Coleg Cymraeg yn ei gynnig sef Tystysgrif Sgiliau Iaith a pha mor ddefnyddiol fydd y cymhwyster wrth ymgeisio am swydd yn y dyfodol.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Cael cyfarfod ffrindiau newydd sydd gyda’r un diddordebau mewn awyrgylch gartrefol. Rwyf yn gobeithio aros yma yng Ngogledd Cymru i weithio yn y dyfodol felly mae’n gyfle gwych i ddod i adnabod pa yrfaoedd sydd ar gael i mi yma yn y Gogledd.
Diddordebau hamdden?
Cymdeithasu, chwarae’r piano a mynd am dro.
Hoff bethau?
Mynd ar wyliau, ymlacio, a’r Nadolig.
Cas bethau?
Pry Cop.
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Rownd a Rownd