Rhiannon Carys Williams
Enw llawn: Rhiannon Carys Williams
Dod yn wreiddiol: Llantrisant
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Ysgol Gyfun Llanhari
Prifysgol: Bangor
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: Sŵoleg gyda Herpetoleg
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Mae ymlusgiaid ac amffibiaid wedi fy niddori ers bod yn blentyn bach. Roedd ffocws y cwrs ar Herpetoleg yn ddeniadol iawn i mi. Yn ogystal â hyn mae’r adran yn un gadarn ac mae’r darlithwyr yn cynnwys rhai o’r ymchwilwyr gorau yn y maes.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Dwi eisiau parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg a dwi’n teimlo ei bod hi’n bwysig i atgyfnerthu defnydd y Gymraeg o fewn y byd gwyddonol ac addysg uwch.
Beth yw’r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy’r Gymraeg?
Mae’n gyfle i ymarfer fy Nghymraeg a gwella cyflogadwyedd. Yn ogystal â hyn mae amodau dysgu gwell gan fod dosbarthiadau llai ac felly mae’r profiad dysgu yn fwy personol.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n poeni am astudio drwy’r Gymraeg?
Mae astudio yn rhannol yn y Gymraeg yn dy alluogi di i gyfathrebu gyda chorff o fyfyrwyr ehangach. Os ydych chi’n poeni am safon eich iaith, peidiwch. Mae cymaint o gefnogaeth ar gael i dy helpu ac adnoddau iaith hefyd. Mae cefnogaeth tiwtoriaid Cymraeg hefyd yn gymorth mawr ac yn hwyluso’r profiad o astudio drwy’r Gymraeg.
A fyddech chi’n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Rwy’n annog unrhyw fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr i ymgeisio am yr ysgoloriaethau mae’r Coleg yn cynnig. Mae astudio’n Gymraeg yn cynnig cyfleoedd holl bwysig i godi hyder a gwella dy sgiliau dwyieithog. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd astudio gwell a mwy o gefnogaeth i ti wrth iti astudio dy gwrs.
Pam wnaethoch ymgeisio am fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg dwi eisiau annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg mewn addysg uwch a gwella cynrychiolaeth y Gymraeg mewn pynciau STEM megis Gwyddoniaeth. Mae’r Ysgoloriaeth Cymhelliant wedi bod yn fanteisiol i mi a hoffwn weld myfyrwyr erall yn manteisio o’r un cyfle.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Rwy’n mwynhau’r annibyniaeth o fod yn y brifysgol. Mae’r cwrs o safon uchel, gyda phrofiad dysgu da mewn amgylchedd prydferth iawn. Gewch chi ddim gwell!
Diddordebau hamdden?
Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau darllen a Taekwondo. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol gyda fy ngrwpiau ymlusgiaid ac amffibiaid lleol i arolygu a gwneud gwaith cynnal a chadw ar gynefinoedd pwysig.
Hoff bethau?
Llyfrau, Nadroedd, Taekwondo, Rhaglenni Dogfen Natur (yn enwedig rhai David Attenborough).
Cas bethau?
Siopa,Colur,Rhaglenni realiti, Donald Trump
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Y Gwyll
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Rwy’n gyd-gadeirydd y gymdeithas Herpetolegol ym Mangor ac yn gynrychiolydd cwrs. Rydw i hefyd yn cymryd rhan yn Taekwondo fel rhan o dîm Cymru. Rydw i’n berthynas i’r bardd ac awdur Leslie Norris.