Cymraeg yn y gweithle
Ers yr oeddwn yn ifanc rydw i wedi bod ynghlwm â busnes, trwy ateb y ffôn ar ddydd Sadwrn i gwmni fy nhad ac yna symud ymlaen i fod yn saer coed fy hun. Yn yr amser yna rwyf wedi dod ar draws llawer o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Dwi’n credu fod y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn hanfodol, gan ei fod yn gallu hybu eich busnes. Ond y ffactor mwyaf dwi wedi dod ar draws ydi’r ffaith bod llawer o bobl yn fwy cyfforddus yn siarad trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn gallu rhoi tawelwch meddwl iddynt.
Pan da ni fel cwmni yn siarad yn y gweithle mae cysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol naturiol i ni. Nawr rydw i’n gweld mwy o swyddi i bobl sydd yn siarad Cymraeg ac mae hyd yn oed y cwmnïau mawr yn sylweddoli pa mor bwysig ydi’r Gymraeg.
Holais Rhiannon Ling sef sefydlwraig cwmni BODOLI am sut mae Cymraeg wedi effeithio ei chwmni. Dywedodd “Un o’r rhesymau nes i ddechrau’r cwmni BODOLI oedd gan ei bod yn anodd prynu anrhegion Cymraeg unigryw, felly gwelais fod gap yn y farchnad i gynnig rhywbeth gwahanol. Yn ffodus iawn mae pobl wedi cefnogi’r busnes gan ein bod yn cynnig creu anrheg arbennig iawn sydd wedi ei phersonoli.”
“Mae defnyddio’r iaith Cymraeg yn sicr wedi bod yn hanfodol i BODOLI. Mae pobl yn hoffi’r enw hefyd, gan fod pwyslais ar yr iaith Cymraeg i fodoli.”
“Rydym yn gweithredu gwefan Ddwyieithog ac mae pob taflen, sticeri a.y.b. yn ddwyieithog. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffyrdd marchnata da i’r cwmni ac rydym yn postio negeseuon yng Nghymraeg a Saesneg. Mae pobl yn hoffi gweld y ddau ac mae hynny’n helpu’r rhai sydd yn dysgu’r iaith.
Gan fy mod yn hybu’r iaith Cymraeg mae mwyafrif o’r cwsmeriaid yn dod o Gymru, ond hefyd rwy’n gwerthu llawer tramor ac i bobl sydd wedi gadael Cymru i fyw tramor.
Mae rhywbeth arbennig iawn am gael anrheg bersonol efo geiriau Cymraeg.
Nid wyf yn meddwl y byddai BODOLI wedi bod mor llwyddiannus oni bai ein bod yn cynnig anrhegion Cymraeg. Mae pobl Cymraeg yn hoffi cefnogi cwmnïoedd Cymraeg ac rwy’n gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn.”
Gwyliwch y fideo yma am gyflogwyr yn sôn am fanteision dwyieithrwydd
Rhywbeth y byddwn yn annog unrhyw fyfyriwr i wneud ydi’r dystysgrif sgiliau Iaith. Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn bendant yn sefyll allan ar CV pan yn ceisio am swydd, felly cofrestrwch yn awr trwy fynd i’r wefan!