Digwyddiadau’r Gymdeithas Gymraeg!
Helo! Cadi ydw i a dwi’n un o lysgenhadon y Coleg o Brifysgol Bangor!
Dwi wedi creu’r fideo fer yma er mwyn dangos y mathau o ddigwyddiadau hwylus sydd gan y Gymdeithas Cymraeg i gynnig i ni yma ym Mangor.
Bellach dwi yn yr 2il flwyddyn, a dwi wedi profi blwyddyn gymdeithasol llawn hwyl yn y Brifysgol. Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gymdeithas Gymraeg sydd yn cynnal digwyddiadau tebyg.
Am fwy o wybodaeth cofiwch ddilyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Facebook, twitter ac Instagram.
Mwynhewch!