Diwrnod prysur yn ffair UCAS Wrecsam
Yn ystod mis Mawrth cefais y cyfle i fynd i ffair UCAS Wrecsam fel cynrychiolydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o fy rôl fel llysgennad. Roedd yn brofiad gwych a chefais gyfarfod sawl disgybl oedd yn awyddus i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
Un peth amlwg sylweddolais oedd bod sawl person ddim yn gwybod bod hi’n bosib astudio cyrsiau yn Gymraeg yn y brifysgol (yn enwedig pynciau gwyddonol!). Roedd yr ymateb cawsom yn wych ac roedd pawb yn awyddus i wybod mwy ac yn gadael yn bwriadu ymgeisio am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cefais weithio ar y stondin yn ogystal â gwneud cyflwyniad am waith y coleg i ddisgyblion y chweched dosbarth. Roedd hyn yn brofiad da gan fy mod ddim wedi arfer gwneud hyn ac roeddwn yn teimlo ei fod wedi rhoi hyder imi ar gyfer cyflwyniadau byddwn yn gwneud yn y dyfodol.

Cofiwch i ddod i siarad gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eich ffair UCAS lleol er mwyn cael ymaelodi gyda’r coleg, pigo prosbectws i fyny a gofyn unrhyw gwestiynau i ni!


