Dysgu am Ddwyieithrwydd ym Myd Iechyd a Gofal
Yn ddiweddar, treuliais wythnos gyda rhai o fy nghyd-fyfyrwyr yn dysgu am sefyllfa statws dwyieithwydd y byd iechyd a gofal yng Nghymru. Gydol yr wythnos cawsom gyfleoedd gwerthfawr i siarad gyda chleifion am eu profiadau o ofal ddwyieithog, meddyg teulu am yr hyn a ymgorfforir yn ei meddygfa hi, yn ogystal ag efo aelodau o’r Llywodraeth a Swyddog Polisi’r iaith Gymraeg sy’n gyfrifol am sefydlu a gweithredu ar safonau’r fframwaith ‘Mwy na Geiriau’.

Fframwaith strategol yw ‘Mwy na Geiriau’ a’i sefydlwyd yn wreiddiol yn 2012. Ei hamcan yw i gynyddu a chryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gleifion Cymraeg yng Nghymru er mwyn rhoi gofal well iddynt.
Cydnabyddir gan bawb ei bod yn anoddach i blant ifanc a henoed sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt gyfathrebu’n effeithiol gyda meddygon uniaith Saesneg, ac i’r gwrthwyneb. Fel amryw un, pryderais o feddwl fod Cymry Cymraeg yn cael eu rhoi o dan anfantais pan ddaethai at eu gofal iechyd o ganlyniad i ddiffyg argaeledd meddygon Cymraeg. Yn wir, roedd y ffaith hon yn un o’r prif ffactorau- ynghyd â bodolaeth yr opsiwm o ddysgu agweddau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg- a wnaeth i mi deimlo mor reddfol mai i Gaerdydd yr oeddwn eisiau dod i astudio Meddygaeth.
O glywed persbectif clefion, agorwydd fy llygaid i’r lletchwithdod ac euogrwydd a dueddir i’w teimlo gan gleifion sy’n gofyn am ffynhonellau a meddygon Cymraeg pan ymwelant â’r ysbyty neu feddygfa. O ganlyniad, gwerthfawrogaf werth y ‘Cynnig Rhagweithiol’ a gynnigir fel rhan o’r strategaeth ‘Mwy na Geiriau’. Golyga’r cynnig rhagweithiol fod clefion yn cael cynnig gwasanaethau Cymraeg heb orfod gofyn amdanynt eu hunain. Y gobaith yw fod clefion yn teimlo mwy o ryddid a hawl i dderbyn gofal drwy gyfrwng eu mamiaith, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posib.
Cefais wythnos wych, ac fe’m calonogwyd o ddysgu am yr hyn sy’n digwydd i wella’r ddarpariaeth ddwyieithog ym myd iechyd a gofal yng Nghymru. Teimlaf yn fwy brwdfrdyig nag erioed i raddio fel meddyg sy’n hyderus i ymdrin â chleifion Cymraeg a Saesneg mor effeithiol a’u gilydd. Hyderaf y bydd gofyn mawr am feddygon fel fi pan raddiaf, sy’n rhoi hwb anhygoel a boddhad mawr i mi wrth feddwl am fy ngyrfa yn y dyfodol.
1 Sylw
Gwych Manon!!!!!