Eisiau astudio Theatr a Drama?
Helo fy enw i yw Tomos a dwi’n fyfyriwr ar gwrs Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r cwrs Theatr a Drama yn un sydd yn rhoi sail cadarn i chi fedru perfformio mewn sawl ffordd. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys actio, cyfarwyddo ac ysgrifennu i enwi dim ond rhai. Mae’n gyfle gwych i chi datblygu eich sgiliau mewn sawl ffordd ac ennill rhai newydd. Rydym yn astudio dramâu ac yna eu perfformio. Mae amryw o steiliau gwahanol y rydym yn dysgu amdanynt ac agor ein llygaid i’r theatr o gwmpas y byd. Yn ogystal rydym yn dyfeisio gwaith sydd yn arloesol ac yn heriol.
Mae gwaith aml-gyfrwng yn rhan o’r cwrs, sydd yn cynnwys defnyddio camerâu i ffilmio gwaith a golygu, sydd yn rhywbeth nad wyf erioed wedi ei wneud o’r blaen, ond wir wedi mwynhau. Mae’r cwrs yn un unigryw sydd yn cynnig llwyth o gyfleoedd i chi. Rwy’n teimlo bod y cwrs yn eich datblygu fel person ac fel rwyf wedi son yn rhoi sgiliau gwerthfawr sydd yn bendant yn mynd i fod o ddefnydd da yn y dyfodol. Mae astudio’r cwrs Theatr a Drama yn rhoi cyfle i chi ddatblygu i’r person yr ydych chi eisiau bod a magu hyder. Mae’n rhoi cyfle i chi ddewis y trywydd cywir i chi o ran gyrfa gan fod y cwrs yn cynnig amrywiaeth.
*********************************************************************************
Haia, Llio dwi, a dwi hefyd yn fyfyriwr Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnig gymaint o wahanol elfennau o theatr, felly mae’n berffaith i rhywun sydd eisiau dysgu sgiliau ym mhob agwedd o ddrama. Ar y funud rwyf i ac eraill mewn darlithoedd am 14 awr yr wythnos, sydd yn gadael digon o amser i ni ymarfer yn ein amser ein hunain i baratoi ar gyfer asesiadau, ac i hefyd wneud unrhyw ddarlleniadau sydd yn angenrheidiol at gyfer y darlithoedd. Mae’r darlithoedd yn rhai hynod amrywiol a chynhwysfawr; rwyf yn gadael pob un yn teimlo fel fy mod i wedi dysgu rhywbeth newydd.
Mae dysgu llinellau yn elfen ble rwyf wedi wynebu trafferthion fel myfyriwr, ond hefo’r amser di-gyswllt sydd gennym ni, ac hefo’r technegau gwahanol rwyf wedi eu dysgu yn fy amser ym Mhrifysgol De Cymru- fel darllen y darn rwy’n trio ei ddysgu mewn gwahanol donau a rhythmau, rwyf wedi medru goresgyn hyn.
Wrth fod yn rhan o Brifysgol De Cymru mae modd dod yn rhan o Gymdeithas Gymraeg Caerdydd- Y GymGym- sydd yn cynnig nifer o gyfleoedd hwyliog i gymdeithasu. Caiff gweithgareddau cymdeithasol eu trefnu o fewn y Brifysgol yn aml, fel Twmpath ym mhrif dderbynfa’r adeilad! Yn ogystal a hyn, mae’r cwrs Theatr a Drama yn trefnu nifer o gyfleoedd i fynd i’r theatr, ac hefyd ar deithiau fel; i Aberystwyth- i wella ein sgiliau sgriptio, ac i Ŵyl Map- er mwyn arddangos ein doniau i weddill fyfyrwyr drama Cymru.