Ffair UCAS
Mae dewis mynd i brifysgol yn gam mawr i unrhyw un gymryd, p’un a ydych chi’n bron a gorffen eich lefelau A, neu’n penderfynu newid eich gyrfa. Ar ôl gwneud y penderfyniad, yna rhaid i chi ddewis ble a beth ydych chi eisiau astudio, sy’n gallu dod â phob math o gwestiynau i’ch pen.
Ffair UCAS yw’r unig le ble gallwch gael yr holl atebion i’ch cwestiynau, gan fod llawer o wahanol brifysgolion yn yr un lle! Felly nid oes angen i chi deithio i bob un ohonynt!
Bydd gan rai prifysgolion seminarau drwy gydol y dydd i roi mwy o wybodaeth i chi, ar beth yw e fel i astudio yno.
4 Tip Cyn Mynychu
- Cael syniad o ba wlad/ardal chi’n hoffi a chreu rhestr o’r prifysgolion sydd o fewn yr ardaloedd hynny
- Mynychwch yr holl stondinau a seminarau ar gyfer y prifysgolion ar eich rhestr
- Creu’ch rhestr o gwestiynau yr hoffech i ofyn a fydd yn helpu i chi gyfyngu eich rhestr
- Cael gwybodaeth am bob diwrnod agored ar gyfer y prifysgolion sydd ar eich rhestr derfynol
Roedd y Coleg Cymraeg yn ffair UCAS Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ddoe ac roedd yn braf gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn parhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg!
Cofiwch fod siawns arall i ddod i ffair UCAS Bangor ar y 15 o Mehefin i weld y Coleg a mynd i’w seminarau! Mae’n lot o sbri! Cefais hwyl heddiw yng Nghaerdydd neis i weld pawb yn siarad Cymraeg!
Croeso ichi ofyn cwestiynau i ni!
Dilynwch ni ar:
Twitter: @ColegCymraeg
Instagram: @ColegCymraeg
Facebook: ColegCymraeg
Ebost: gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk