Ffeiriau Ucas
Helo pawb! Dyma neges gloi am ffeiriau UCAS sy’n dod i fyny’n fuan.
Pwrpas ffeiriau UCAS yw i gynrychiolwyr prifysgolion Cymru, a thu hwnt, i ddangos be allant gynnig i chi fel myfyrwyr israddedig. Mae’n gyfle i chi ddarganfod eich opsiynau ac i weld be fyddai’n siwtio chi. Mae yna dair ffair yn cael eu cynnal ym mis Mawrth (Wrecsam, Caerdydd, a Chaerfyrddin) ac un arall yn ystod Mehefin ym Mangor.
Bydd nifer enfawr o stondinau ynddynt sy’n gynnig llawer o gyrsiau gwahanol felly manteisiwch ar y cyfle i ofyn cwestiynau, casglu prosbectysau ac i fynychu’r seminarau.
Bydd gan y Coleg Cymraeg stondin yno hefyd felly galwch draw i weld be sydd gennym i gynnig! Byddwn ni fel llysgenhadon yno felly bydd yn braf cael sgwrs gyda chi!
Yn ogystal â stondin, bydd seminarau yn cael eu cynnal er mwyn rhannu mwy o wybodaeth efo chi.
Felly, mwynhewch gyffro’r ffeiriau a manteisiwch ar y cyfle gwych yma! Am fwy o wybodaeth am stondin a seminar y Coleg Cymraeg cewch i gal pip ar flog Poppy cyn hir.