Fy nhro cyntaf yn yr Eisteddfod…
…yn bendant ddim y tro olaf!

Ddydd Mercher, gweithiais yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth yn creu melinau gwynt gyda phlant. Roedd yn dda gweld gwyddonwyr bach y dyfodol yn arbrofi gyda siapau i weld beth fyddai’n gweithio’n well, ac yn llawn cyffro pan welen nhw faint o egni roedd eu melin yn gwneud. Aeth e ychydig yn ddwys ar un pryd gyda’r merched yn cystadlu yn erbyn y bechgyn!
Yn y prynhawn, es i i’r stondin i dderbyn fy nhystysgrif sgiliau Iaith Gymraeg yn nerbyniad y Coleg. Llongyfarchiadau bawb!
Roeddwn yn ôl ar y stondin trwy ddydd Iau. Roedd yn brysur gyda digwyddiadau amrywiol a gig gwych Patrobas! Roedd yn dda hefyd cael sgwrsio gyda chi ar y stondin a hefyd wrth grwydro’r maes. Edrychwch mas am eich lluniau yn y ffrâm Instagram ar gyfrif y Coleg! Dyma lun Huw Edwards, Ben Dant, Gareth Bale i enwi dim ond rhai!

Roedd y profiad mor wych. Penderfynais fore Gwener i fynd yn ôl i’r maes gyda’m cefnder bach. Holais heddiw beth oedd ei hoff ran o’r dydd… dim cwrdd â Sali Mali… dim gwneud gweithgareddau yn y pafiliwn… dim ymarfer ei sgiliau rygbi… ond bod ar stondin y Coleg a’r loli bubblegum!