Gwaith Cwrs Lleol – Rhan 1

Ym mis Ebrill, mi wnes i gyflawni wythnos o waith cwrs gyda Phrifysgol Bangor yn yr ardal leol. Mi wnes i gyflawni’r gwaith ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Aberffraw, Gerddi Fotaneg Treborth a Niwbwrch.

 

Parc Cenedlaethol Eryri – Dydd Llun

Dechreuodd yr wythnos ym Mharc Cenedlaethol Eryri. I ddechrau’r wythnos siaradon ni  gydag un o wardeniaid y parc. Cawson ni’r siawns i ddysgu am y straen a achoswyd gan y nifer o ymwelwyr i’r parc a pha strategaethau sydd yn eu lle i ddelio â’r problemau achoswyd. Un esiampl o broblemau a achoswyd gan y nifer enfawr o dwristiaid yw erydiad pridd. Mae hyn yn arwain at straen ar y llwybrau. Mae erydiad yn gyflymach ar y llwybrau mwyaf poblogaidd. Misoedd yr haf yw’r rhai mwyaf prysur, gyda’r niferoedd o ymwelwyr ar ei uchaf ym mis Awst. Mae’r dwysedd uwch o ymwelwyr yn y misoedd yma yn cynyddu’r effaith o erydiad ar y llwybrau. Mae rhai gweithgareddau yn cael effaith hyd yn oed yn uwch ar erydiad, megis seiclo.

Llwybr Pen y Pass

Oherwydd maint y broblem, mae awdurdodau’r parc wedi rhoi strategaethau yn eu lle i leihau’r broblem. Un esiampl o hyn yw’r gwelliannau sydd wedi ei wneud i’r llwybrau, megis y trac poblogaidd Pen y Pass. Cafodd creigiau eu hedfan i mewn  (gan fod creigiau lleol wedi’u hamddiffyn) a chafodd cownteri eu rhoi ar gatiau’r llwybr. Mae’r cownteri yn helpu i fonitro’r niferoedd o ymwelwyr ac yn rhoi gwybodaeth ar gyfer ceisiadau grant.

Wedyn ymwelon ni â ffarm leol – Hafan y Llan. Mae’r ffarm yn 4,000 o aceri mewn maint ac yn rheoli tir ar gyfer egni cynaliadwy. Mae 4 safle hydrodrydanol ar y ffarm. Mae’r ffarm yn ardal ddelfrydol ar gyfer safle hydro gan ei fod yn edrych dros yr afon Cwmllan sydd yn

Prif Generadur Ffarm Hafan y Llan

ddechrau yng Nghwm Cwmllan, mae’r cwm wedi ei gyfansoddi o graig galed a lefelau dyddodiad (precipitation) blynyddol uchel o 200 mm.  Mae’r prif eneradur wedi rhedeg ers 2.5 blwyddyn. Er i effeithiau byr dymor fod yn fawr yn ystod adeiladu e.e. wrth roi’r pibellau lawr nid oedd llawer o liniariad (mitigation) ei angen chwaith gan fod lefelau uchel o gopr yn y pridd wedi arwain at absenoldeb pysgod a bioamwrywiaeth (biodiversity) isel yn yr afon. Ond yn yr hir dymor, mae’r effeithiau wedi bod yn isel iawn e.e. claddwyd y bibell ac ailblannwyd yr ardal ac adeiladwyd arno. Yn ogystal â hyn cafodd strategaethau eu rhoi yn eu lle ar ôl creu’r generadur  er mwyn amddiffyn rhai rhywogaethau (species). Un o’r strategaethau yma yw rheoli ar gyfer cen (lichen) a bryoffytau (bryophytes) yn y rhanbarthau (zones) sblash.

Fel rhan o’r gwaith wnaethon ni yn y parc cenedlaethol, wnaethon ni glirio Rhododendron ponticum  ym Mharc Gwynant. Cafodd y planhigyn ymledol (invasive) Rhododendron ei gyflwyno tua 1750, efallai o Gibraltar ac roedd e’n blanhigyn poblogaidd yn enwedig mewn gerddi plastai megis Penrhyn a Phlas Tan y Bwlch. Mae’n arwain at effeithiau difrifol i’r ecosystem ac wedi arwain at ollyngiad yn y bioamrywiaeth yng Nghwynant. Mae’r planhigion yn gallu tyfu hyd at 3m gan greu

Wrthi’n clirio Rhododendron.

gorchuddiad mawr , sydd yn rhwystro golau rhag cyrraedd o dan y canopi gan arwain at blanhigion llai yn marw.

Mae’r cysgod a achoswyd gan y planhigion yn arwain at ungnwd (monoculture). Mae dail y planhigyn hefyd yn wenwynig i anifeiliaid ac felly ddim yn ffynhonnell fwyd. Mae gollyngiad o 60 % hefyd wedi ei weld ym mwydyn y pridd. Ynghyd â hyn mae un planhigyn mawr yn gallu cynhyrchu 1,000,000 o hadau bach y flwyddyn! Mae’r hadau yma yn fach iawn ac felly’n cario’n bell ac yn anodd eu darganfod. Mae’r rhesymau yma ynghyd ag eraill yn gwneud hi’n hollbwysig i waredu Rhododendron. Y ffordd fwyaf effeithiol o waredu’r planhigion yw trwy chwistrellu’r chwynladdwr (herbicide) glyffosad i mewn i goesyn y planhigyn. Mae’r strategaeth yma yn effeithiol ond yn hynod o gostus, mi fydd hi’n rhedeg cost o £700,000 ar gyfer Gwynant yn unig. Fel rhan o strategaeth y parc, clirion ni Rhododendron er mwyn llosgi. Cadwon ni’r coesau yn y pridd er mwyn cael eu trin gyda clyffosad mewn blwyddyn. Mae’r parc yn dibynnu ar gyfraniad gwirfoddolwyr wrth geisio delio â’r broblem yma. Un grŵp sydd yn hollbwysig yn gwirfoddoli yw Cymdeithas Eryri.

Ewch i ddarllen amdano fy nhripiau i Aberffraw, Treborth a Niwbwrch yn fy mlog nesaf!

Aberffraw – Dydd Mawrth

Edrych yn y Pyllau Glan Môr

Gwarion ni’r bore yn Aberffraw yn edrych ym mhyllau glan môr ar gyfer rhywogaethau cynefinol arfordirol.  Cawsom ni’r siawns i adnabod y rhywogaethau o organebau a welwyd a hefyd i fesur nodweddion y pyllau. Cymharwyd pyllau o wahanol feintiau ar ardaloedd gwahanol o’r traeth i gymharu’r organebau a oedd yn byw ynddyn nhw.

Yn y nos aethon ni i goedwig Niwbwrch er mwyn gwylio’r cigfrain (ravens) yn dod mewn i glwydo. Mae’r coetir yn gartref i un o’r clwydi mwyaf yn y byd. Mae Newborough yn safle o ddiddordeb am nifer o resymau. Nid yn unig oherwydd y glwyd o gigfrain ond hefyd oherwydd ei nodweddion unigryw. Mae’r goedwig wedi’i phlannu yn y twyni tywod. Y cynllun gwreiddiol oedd plannu’r coed er mwyn sefydlogi’r twyni ac i amddiffyn y dref rhag tywod a oedd yn cael ei chwythu mewn gan y gwynt. Mae’r lefelau uchel o halen a’r lefelau is o faeth yn y tywod i gymharu â phridd yn meddwl nad yw safon pren y coed mor dda a gobeithiwyd ar gyfer coetir masnachol. Er hyn, mae’r coetir yn ardal bwysig ar gyfer bywyd gwyllt. Mae anifeiliaid arall a welwyd yn yr ardal yn cynnwys gwiwerod coch a nifer o rywogaethau arall o adar megis gylfin groesion (Loxia curvirostra).

Coetir Niwbwrch

Treborth – Dydd Iau a Gwener

 Ar 2 diwrnod olaf y cwrs treulion ni ein hamser yn Nhreborth, gerddi fotaneg Prifysgol Bangor. Trwy nifer o ddulliau gwahanol o arolygu megis casglu dail, bwrw’r deiliant (foliage), trapiau “pitfall” a thrapiau gludiog, casglon ni bryfed a phry cop. Wedyn, trwy ddefnyddio llyfrau a microsgopau, gwnaethon ni ceisio canfod y rhywogaethau a gasglwyd. Casglwyd pryfed o wahanol ardaloedd o’r gerddi a chymharwyd nhw er mwyn gweld os oedd gwahaniaethau yn beth a gasglwyd. Cymharwyd hefyd y math o rywogaethau a ddarganfyddwyd yn y canopi i gymharu â’r llawr. Edrychwyd am wahaniaeth yn beth gasglwyd rhwng  microgynefinau (microhabitats) gwahanol.

 

Canfod a Chasglu Rhywogaethau

Roedd y cwrs yn siawns i mi weld yr amrywiaeth o organebau a chynefinoedd sydd yn bresennol yn fy ardal leol. Fel myfyriwr Sŵoleg mae’n hawdd edrych tuag at gynefinoedd tramor megis y goedwig glaw neu’r safana a’r anifeiliaid diddorol a darganfyddwyd yn yr ardaloedd hyn. Mi wnaeth y cwrs atgoffa nifer ohonom ni beth sydd i weld yn ein hardal leol a’r gwaith cadwraeth sydd angen i wneud yma yng Nghymru.