Llysgenhadon yn Arddangosfa Addysg Uwch UCAS 2016!!!!

Diwrnod gwych yn ‘Arddangosfa Addysg Uwch’ ym Mhrifysgol Bangor wythnos diwethaf. Brwdfrydedd, Bywiog a Bril yw’r geiriau i ddisgrifio’r myfyrwyr a disgyblion sydd yn megis dechrau ar eu taith i brifysgolion. Mae’n wych fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yno ar gael i fyfyrwyr Cymraeg sydd eisiau astudio eu pyncia’ drwy eu mhamiaith . Cofiwch fod ysgoloriaethau gwerth £5,000 , £3000 a £1500 ar gael i’ch helpu drwy’r broses.


Cawsom ni fel Llysgenhadon y Coleg Cymraeg gyfle i siarad gyda darpar fyfyrwyr i’w cynorthwyo ac i bwysleisio manteision astudio pynciau gradd yn y brifysgol drwy’r Gymraeg. Da ni’r Cymry yn unigryw gan ein bod yn berchen ac yn siarad ‘Iaith y nefoedd’, ac pwysleisir ar y cyfleoedd i astudio drwy’r Gymraeg a chael derbyn arian AM DDIM!!!!
Felly bois bach, heb os nac oni bai………meddyliwch yn ofalus am eich gyrfaoedd ac y dyfodol……gan fynnu dysgu a pharhau yn eich iaith chi eich hunain. Mae’r gallu gan berson nid yn unig i siarad Cymraeg, ond i siarad Cymraeg yn broffesiynol yn fantais enfawr i gyflogwyr.
