Llysgenhadon yn selebs am y dydd!
Pleser oedd cael rhannu’r soffa gyda fy nghyd-lysgennad Dylan ar raglen Prynhawn da ddydd Mawrth diwethaf. Rhwng y colur, y camerâu a’r cloncian yr oedd hi wir, yn brynhawn da i ni, llysgenhadon y Coleg Cymraeg.
Wedi i ni gael croeso cynnes dros ben, y dasg gyntaf, oedd camu i’r ystafell golur, a chael ein trin fel ‘celebs’ go iawn…hyd yn oed Dylan.


Wedi hynny, roedd hi’n amser i fynd i ymweld â’r set, a ffilmio darn bach ar gyfer dechrau’r rhaglen.

Wedi hyn, bûm yn sgwrsio gyda gweddill y gwesteion, cyflwynwyr a staff y rhaglen, gyda’n boliau yn dechrau troi gyda nerfau.

Ond i hwyluso’r sefyllfa, pa beth gwell na chael selfie cyflym, gyda’r dyn ei hun, Huw Fash!

Wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, ein tro ni oedd hi yn y sedd fawr, gyda Dylan a minnau yn edrych ymlaen at hyrwyddo gwaith da y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bûm yn sôn am:
- Ein rôl ni fel llysgenhadon
- Ymweliadau ag ysgolion, yr Eisteddfod a ffeiriau UCAS
- Yr ystod eang o gyrsiau Cymraeg sydd ar gael
- Ysgoloriaethau’r Coleg (Edrychwch ar y chwilotydd cyrsiau i weld a ydych chi’n gymwys ac EWCH AMDANI!!! )
- Blog y llysgenhadon #Llaisyllysgennad
Bu’n brofiad arbennig iawn i ni fel llysgenhadon, ac yn bleser i hyrwyddo gwaith arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n brofiad da i leisio ein profiad personol am ysgoloriaethau a chyrsiau Cymraeg y Coleg sydd yn gymaint o fudd i ni fel myfyrwyr presennol.
Cofiwch ddilyn y Coleg Cymraeg ar Facebook, Twitter ac Instagram i glywed fwy am helyntion y llysgenhadon!
Cewch gyfle i wylio’r sgwrs yma: Prynhawn da: