Nol yn yr Brifysgol!
Helo Ariannell Parry ydwi i, un o llysgenhadon am y flwyddyn yma. Hogan o Sir Fôn wedi mentro’n ôl i’r Brifddinas a dechra fy ail flwyddyn yn Prifysgol De Cymru. Dyma chydig o fy hanes dros y misoedd dwytha.
Hâf Prysur
Y Sioe Frenhinol a Steddfod Boded- Dyma’r ddau beth hoffais fwyaf am gwyliau eleni! Cal joio efo bob math o ffrindiau, o criw y Ffermwyr Ifanc a dal fynu hefo hen ffrindiau sydd mewn gwahanol golegau. `Roedd yr haul yn tywynu yn y Sioe,help mawr pan yn gwersylla mewn pabell, ond fe ddaeth cwmwl pan fuodd yr heddlu yn holi a rhai yn chwilio am James Corfield . Trist iawn oedd clywed fod ei gorff wedi ei ffendio yn yr afon ymhen chydig ddyddiau wedyn.
Roedd yr Eisteddfod yn gret,dyma `Steddfod gynta i mi aros ynddi – Maes B wrth gwrs ! a hefyd ar stepan y drws. Er gwaethaf y glaw dechra wythnos doedd dim stopio ar yr hwyl a`r chwerthin! Yn ogystal ac joio’r noswethiau gyda fy ffrindau roeddwn yn gweithio ar stondin y Coleg Cymraeg dros dri diwrnod ac roedd hynny’n brofaid gwych. Daeth llawer o bobl ifanc heibio a mwynhau y gweithgareddau oedd yn mynd mlaen ganddom yn y babell. Prif nôd y babell oedd hybu myfyriwyr y dyfodol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg,ac fel llysgenad `roeddwn yn falch o gael sgwrs a’i hannog ymlaen.
Nol i Gaerdydd
Erbyn rwan dwi yng Nghaerdydd ers rhyw dair wythnos ac mae’n braf bod nol yma yn ganol bwrlwm y brifddinas ! Dwi bellach yn byw mewn ty gyda naw o ffrindau sydd yn rili neis gan bod pawb yn cyd dynnu ( hyd yn hyn !)ac yn neud stwff gydai gilydd!Mae fy darlithoedd wedi hen gychwyn ac ma gwaith yr ail flwyddyn yn dechra peilio fynu! Dwin edrych ymlaen ar gyfer y flwyddyn yma gan fod y modiwlau fwy diddorol a hefyd gan fy mod yn dod i arfer a bywyd yn y ddinas a ddim cweit gymaint o hiraeth am Y Gogledd.
Rwyf wedi ymuno â chlwb dringo yn Trefforest a mwynhau gweithio fel tim a gwynebu sialensau newydd. Mae dwy ohonom yn dod at ein gilydd i ymarfer rhwng nosweithiau y Clwb. Hefyd mae son y byddwn yn cael cyfarfod yn Eryri dros y `Dolig, handi iawn i mi. Cyn bo hir fe fydd aelwyd Y Waun Ddyfal yn ail ddechrau,fe fydd yn braf gweld y criw eto a paratoi at gystadlu.
‘Does dim rheswm i neb fod yn unig mae digon o gymdeithasau a pobl ifanc arall eisiau cwmni mond chwilio sydd isio.
1 Sylw
Falch o glywed dy fod yn setlo’n ol yn dy ail gartref. Angen i hogan o Wlad y Medra roi trefn arnynt tua’r Brifddinas. A llongyfarchiadau i’r Coleg Cymraeg am roi cyfle ac annog ein ieuenctid i barhau gyda’i haddysg drwy’r Gymraeg.