Pam astudio Astudiaethau Addysg Gynradd? A hynny trwy gyfrwng y Gymraeg?
Pam astudio Astudiaethau Addysg Gynradd?
Helo a chroeso i fy mlog cynta’ eleni. Yn y blog yma byddaf yn trafod yn union y manteision o astudio Astudiaethau Addysg Gynradd a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bûm yn awyddus i fod yn athrawes gynradd cyn belled ag y gallaf gofio, ac felly mi oedd y cwrs yma yn berffaith ar fy nghyfer. Mae’r cwrs Addysg Gynradd yn ddiddorol ac yn greadigol iawn gyda sawl rhan gwahanol megis llenyddiaeth, hanes a thechnoleg. Hefyd rydych yn dysgu am y cwricwlwm cenedlaethol a’r newidiadau sydd am ddod yn y dyfodol.
Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer y PGCE neu lwybrau eraill lle rydych yn gweithio gyda phlant. Rydych hefyd yn dysgu am ddiogelwch a datblygiad plant sydd yn cynnwys agweddau biolegol a seicolegol. Mae’r cwrs ar y cyfan yn eang iawn gyda bach o bopeth i siwtio personoliaethau gwahanol.
Mae sawl mantais o wneud y cwrs gan gynnwys mynychu cynhadledd addysg, cymryd rhan mewn prosiectau gwahanol gyda phlant ysgol gynradd a chyfleoedd i fynd ar gyrsiau gwahanol sy’n gysylltiedig ag addysg.
Pam astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae sawl mantais o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi roeddwn yn poeni ar ddechrau’r flwyddyn nad oedd fy iaith Gymraeg gystal â myfyrwyr eraill ac y byddwn yn ei chael hi’n anodd wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gan fy mod i’n dod o deulu di-gymraeg.
Wrth ddechrau’r cwrs o’n i’n hollol gyfforddus wrth astudio a chyflawni gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r darlithwyr a’r tiwtoriaid Cymraeg mor gefnogol ac mae niferoedd llai o fyfyrwyr Cymraeg yn y dosbarth felly fe gewch chi fwy o sylw a mwy o help os oes angen.
Hefyd rydych yn creu ffrindiau sydd hefyd yn siarad Cymraeg felly mae cyfle i gymdeithasu gyda’ch gilydd a hefyd mynychu digwyddiadau’r gymdeithas Gymraeg gan gynnwys nosweithiau mas.
Yn fy mhrifysgol i mae sesiynau ychwanegol ar gael pob wythnos ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn unig, lle rydyn ni’n cael y cyfle i siarad gyda’n tiwtor neu ymhlith ein gilydd yn anffurfiol a hefyd i chwarae gemau Cymraeg fel scrabble. Roedd hefyd cyfle gennym ni fel myfyrwyr Cymraeg i fynd ar drip i Lan-llyn i gymryd rhan mewn gweithdy adeiladu tîm gyda myfyrwyr Cymraeg eraill o brifysgolion gwahanol. Dyma linc i fidio o’r penwythnos yna https://youtu.be/uP6viXF0AMI .
Yn ogystal â’r uchod mae llawer o fanteision gyrfa o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae siawns well o ennill swydd os ydych yn ddwyieithog, gan eich bod yn adnabod termau yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae llawer mwy o ddrysau a llwybrau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Er oeddwn yn poeni am wneud y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg o’n i wastad eisiau dysgu mewn ysgol Gynradd Gymraeg felly roedd y cyfle i ddewis astudio yn y Gymraeg yn wych. Hefyd os ydych am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mae cyfle i ennill arian trwy ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg yn dibynnu ar y canran o’ch cwrs trwy’r Gymraeg. Mae fy nhymor ola’ yn y brifysgol wedi dod i ben erbyn hyn, mae’r cyfle i astudio yn y Gymraeg wedi bod yn wych ac edrychaf ymlaen at astudio gweddill fy nghwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i wir yn eich annog chi i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac na fyddech yn difaru’r cyfle.
1 Sylw
Pob lŵc Chelsea.