Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Gobeithio ichi fwynhau gwylio’r fideo dwi wedi ei wneud!
Fel myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd dwi’n astudio 83% o fy nghwrs drwy’r Gymraeg. Wedi addysg gynradd ac uwchradd yn Gymraeg cam naturiol oedd i mi barhau â hyn. Ond dwi’n llwyr ymwybodol nad ydy pawb yn gweld y dewis mor hawdd.
Felly pam astudio drwy’r Gymraeg?
- Dydech chi ddim dan unrhyw anfantais drwy astudio yn y Gymraeg, gan ddatblygu eich sgiliau trawsieithu yn ogystal â sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Mae seminarau Newyddiaduriaeth wedi cynnig cyfle i mi a chyd fyfyrwyr i drafod mewn grwpiau llai yn y Gymraeg. Mae hyn yn cyfoethogi’r profiad ynghyd â chael darlithwyr sydd â phrofiad newyddiadurol o’r radd uchaf.
- Mae gofyn am siaradwyr Cymraeg yn y byd gwaith heddiw gyda chyflogwyr mewn amryw o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant newyddiadurol, yn gofyn am y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
- O ie, ac wrth gwrs mae hyd at £5000 o ysgoloriaethau ar gael gan y Coleg Cymraeg ar gyfer myfyrwyr fel chi… a hynny i wario ar unrhyw beth!
Mewn gwirionedd mae mwy gennych i’w golli wrth beidio astudio drwy’r Gymraeg!
Felly cerwch amdani!