PATAGONIA: Fy nhaith byth-gofiadwy gyda Phrifysgol Met Caerdydd…

 

Trip Patagonia 2018

Dros yr haf, cefais i a 3 myfyriwr arall o Brifysgol Met Caerdydd y cyfle arbennig i deithio i’r Wladfa i ymgymryd mewn tair wythnos o brofiad gwaith, drwy helpu mewn ysgolion, clybiau chwaraeon, capeli lleol a nifer o ddosbarthiadau i oedolion, a hyn i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni yw’r flwyddyn gyntaf i astudio cwrs chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, a dyma’r trip cyntaf ar gyfer y cwrs.

Dechreuodd y trip gyda thaith awyren 13 awr i Buenos Aires. Er ein bod wedi ymladd, cawsom ddiwrnod i ymweld â’r ddinas fawr cyn dechrau’r trip yn iawn ym Mhatagonia. Cyferbyniad llwyr oedd Esquel, y man cyntaf aethom ym Mhatagonia, i Fuenos Aires. Wedi cyrraedd Esquel, yng nghanol Yr Andes, aethom yn syth i gymanfa mewn capel Cymreig, ac yna aros i sgwrsio gyda’r trigolion lleol, roedd y croeso y cawsom yn anhygoel. Am weddill ein hamser yn Yr Andes mynychom ni Ysgol y Cwm, ysgol gynradd Gymraeg, yn ogystal ag amryw o glybiau chwaraeon.

Ar ôl ein hamser byr yn Esquel, symudom ymlaen i’r Gaiman yn Nwyrain Patagonia lle’r oeddem am ran fwyaf o’r daith. Roedd yn daith bws 11 awr i gyrraedd y Gaiman, anghredadwy ydi meddwl bod y Cymry wedi gwneud yr un daith dros y paith ar gefn ceffylau tua 150 mlynedd yn ôl! Bob dydd tra’n y Gaiman, roeddem yn helpu gyda gwersi addysg gorfforol yn ysgol gynradd y Gaiman yn ogystal â mynychu clybiau chwaraeon gyda’r nosweithiau. Roedd y clybiau yn amrywio o bêl-droed i hoci ac o rygbi i ganŵio ar yr afon Camwy! Cawsom agoriad llygad wrth ymweld â’r clwb rygbi lleol, sef clwb rygbi’r Ddraig Goch gan fod y chwaraewyr yn chwarae rygbi ar dywod a cherrig man, roedd yn edrych yn boenus iawn. Gyda’r nosweithiau roeddem yn cael cynigion i fynd i fwyta yn nhai teuluoedd lleol a phobl yn y gymdeithas gan gynnwys un Asado traddodiadol, roedd yn hyfryd i ddeud y lleiaf! Yn ogystal a’r ‘gwaith’ cawsom benwythnos ym Mhorth Madryn lle aethom allan ar gwch i edrych ar y morfilod a chael noson allan yno, y lleia’ sy’n cael ei ddeud am y noson yna, y gorau dwi’n meddwl…

Gorffennwyd y daith gydag Eisteddfod yr Ifanc, yn y Gaiman, roedd y 4 ohonom yn rhan o’r côr a oedd yn canu’n Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, ac er bod ein sgiliau Sbaeneg yn warthus, rhyw ffordd, enillom y gystadleuaeth. Ar ôl yr Eisteddfod cawsom noson yn y Mochyn Du (yr unig un yn y byd erbyn heddiw) i ffarwelio â’r trigolion oedd wedi bod mor hyfryd gyda ni. Er, doedd y daith adref gyda hangover y diwrnod wedyn ddim yn hwyl!

Felly, dwy brif neges sydd gennyf, astudiwch yng Nghymru i gael y siawns i fynd ar dripiau anhygoel fel hyn, ac yn ail, ewch i Batagonia os ydych yn cael cyfle, mae’n lle hollol arbennig!

O.N. Diolch i Daf Dug am fod y roomie gora’ erioed.