Profiad ar y teledu!

Ers mis Ionawr bellach rwyf wedi bod yn gyfrannydd ar raglen TAG, ac am brofiad!!
Rwyf wedi siarad am nifer lu o bethau fel operau sebon, cerddoriaeth ac hyd yn oed wedi bod i’r sinema er mwyn adolygu ffilm ar y rhaglen!


Felly, sut mae’n gweithio? Wel, dwi’n cyrraedd y stiwdio tua 3:30pm ar bnawn Mawrth ac yn cyfarfod yno gydag un o’r ymchwilwyr. Dwi wedyn yn derbyn cardiau gyda gwybodaeth bras arnynt sy’n cynnwys beth fyddaf yn siarad amdano ac yn cael cyfle i edrych drostynt. Yna, byddai Derwyn yn fy nhywys o gwmpas y set yn esbonio lle fyddaf yn eistedd neu’n sefyll yn ystod y rhaglen! LIGHTS..CAMERA…ACTION!
Yr uchafbwynt hyd yn hyn yn wir ydy dal iâr ‘silky’ ar y rhaglen nos Fawrth! Roedd yn dipyn o her ac yn syndod mawr i mi gan nad oeddwn yn disgwyl dal iâr o gwbwl!

Mae astudio cwrs BA Perfformio yn wir wedi fy helpu i dderbyn profiad o flaen y camera oherwydd heb y cwrs ni fyddwn wedi derbyn y cysylltiadau o gwbl. Mae modiwlau amrywiol wedi fy helpu fel cyflwyno pwnc o flaen y dosbarth a gweithio gyda Julian-Lewis Jones wedi fy ngalluogi i geisio fod yn fwy naturiol o flaen y camera.
Yn sicr, y prif beth sydd wedi sicrhau gwaith fel yma i mi yw’r gallu i siarad Cymraeg. Dwy iaith, dwywaith y sgiliau. Mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn agor y drws i nifer fawr o gyfleoedd newydd! I mi, mae’r Gymraeg yn fantais enfawr i unrhywun sydd am fod ym maes darlledu. O brofiad, mae’n rhoi cymaint mwy o gyfleoedd i chi o ran gweithio ar raglenni Cymraeg ar S4C neu Radio Cymru.
Os hoffwch fy ngweld yn dal iâr yna cliciwch yma