Profiadau DI-RI i fyfyrwyr Cymraeg!
Diolch i Boom Cymru, mi fues i yn brysur iawn am ddeuddydd ym mis Mehefin yn…sâl?
Ie wir, cefais i’r cyfle i fod yn ECSTRA i gyfres deledu ‘Ysbyty/Hospital’.
Er bod hyn yn ymddangos braidd yn hurt, pwy feddyliau fod actio fel claf yn gymaint o sbri!
Cefais fy rhoi mewn gwn nos ysbyty a threulio rhan fwyaf o fy amser mewn gwely!
Roedd fy ffrind Rhian hefyd yn rhan o’r ffilmio, ac mae’n wir i ddweud ein bod ni wir wedi mwynhau ein profiad o weithio gyda’r actorion!

Roedd Iwan John yn gymeriad a hanner, ac roedd y profiad o weld sut roedd cyfres deledu yn cael ei rhoi at ei gilydd yn ddiddorol iawn!

Y peth gorau am y profiad oedd cael ein coluro a gwisgo’r holl wisgoedd gwahanol! Roeddwn i’n teimlo fel petawn i yn ôl yn fy mhlentyndod.
Cefais ddiwrnod wrth fy modd!