Prosbectws Newydd
Y ffordd orau i benderfynu pa gwrs ydych am ei wneud yw darllen prosbectysau Prifysgol!
Mae prosbectws y Coleg Cymraeg yn rhoi gwybodaeth am y Coleg a’i hanes a llawer mwy!
Mae’n cynnwys rhestr o dros 1,000 o gyrsiau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac ym mha brifysgol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleoedd fydd ar gael i chi os byddwch yn dewis astudio trwy’r Gymraeg.
Mae gwybodaeth am yr ysgoloriaethau sydd ar gael a’r gwahanol gyrsiau a sut i wneud cais. Mi wnes i gael un o’r ysgoloriaethau! Mae’n werth ichi drio!
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y broses gyfan o wneud cais i brifysgol a beth i’w ddisgwyl yn y darlithoedd a seminarau.
Mae prosbectws y Coleg a rhai unigol y prifysgolion ar gael am ddim. Mae prosbectws newydd y coleg ar gael i chi ar lein yma a’r rhan fwyaf o’r rhai prifysgolion ar eu gwefannau neu gallwch eu casglu, a llawer o bethau eraill am ddim, mewn ffeiriau UCAS.
Ewch amdani gyda’r Coleg Cymraeg!