‘STEDDFOD! ‘STEDDFOD! ‘STEDDFOD!
Beth ydych chi’n gwneud rhwng 30 Mai a’r 4ydd o Fehefin? Wel, mae adeg Eisteddfod yr Urdd wedi ein cyrraedd leni eto, felly beth am alw draw i weld y Coleg Cymraeg yn Sir y Fflint?!
Ble mae’r eisteddfod? Cynhelir yr Eisteddfod ar dir o amgylch Ysgol Uwchradd Y Fflint. Cod post y Maes yw CH6 5LL ac fe fydd arwyddion swyddogol yn eich helpu i gyrraedd y meysydd parcio. Am fwy o wybodaeth ar deithio, dyma linc i chi: Gwybodaeth teithio.
Rhif stondin y Coleg Cymraeg ar y maes yw 101 – 104 felly galwch draw am lu o weithgareddau megis adeiladu moleciwl siocled ac fe fyddwn yn dangos sut mae creu hufen ia! Os ydych yn berson cerddorol, neu yn berson sy’n hoffi sialens mae yna gyfle i chi ddysgu sut i chwarae’r Iwcaleli neu dysgwch sut mae bitbocsio gydag Ed Holden! Os ydych yn un sy’n ymddiddori mewn ysgrifennu ac eisiau rhywbeth ffresh ar ôl yr arholiadau yna dewch am sesiwn hwylus o flogio a sgwennu i’r we! Felly, peidiwch a gofidio, mae yna ddigon at ddant bawb!
Bydd llysgenhadon y Coleg Cymraeg hefyd ar y stondin y barod i siarad gyda chi am unrhyw bryderon sydd yn eich poeni ynglŷn â mynd i’r brifysgol, boed hynny yn gwestiwn am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn gwestiwn am y tafarndai Cymraeg sydd ar gael yng Nghymru!
HEFYD CYFLE I WRANDO AR GRWPIAU CYMRAEG BOB PNAWN AM 1YH!!
Dydd Llun – Plu
Dydd Mawrth – Cordia
Dydd Mercher – Henebion
Dydd Iau – Yr Eira
Dydd Gwener – Ysgol Sul
Dydd Sadwrn – Y Cledrau
Dyma chi’r rhaglen gyflawn.
Galwch draw i wefru eich ffôn symudol ac i ddefnyddio’r gornel bincio cyn mynd ar lwyfan yr Urdd!