Wel, ma’ sbri y Steddfod a’r Haf wedi dod i ben, nôl a ni i fywyd go iawn!
Wel, ma’ sbri y Steddfod a’r Haf wedi dod i ben, a nawr nôl a
ni i fywyd go iawn!
Mynd i’r brifysgol fis yma? Newch yn siwr eich bod yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg!
Pam astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae yna nifer o fanteision ar gael dros ddewis astudio’ch cwrs yn y brifysgol boed yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy’r Gymraeg. Wrth astudio fy nghwrs yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, rwy’n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau yn ddwyieithog sydd yn fuddiol i mi wrth ddechrau fy mlwyddyn frechdan gan fy mod yn medru gweithredu a thrafod gyda chwsmeriaid yn ddwyieithog.
Mae’r unigolion sydd yn medru ysgrifennu a siarad Cymraeg yn ennill bron i 11% yn fwy o gyflog ar gyfartaledd nag unigolion sydd ond yn medru yn un iaith (croesi bysedd ar gyfer y dyfodol!!!).
YSGOLORIAETH WILLIAM SALESBURY | Y BRIF YSGOLORIAETH | YSGOLORIAETH CYMHELLIANT |
Arian – £5,000 | Arian- £3,000 | Arian- £1,500 |
Ond, rhaid astudio 100% o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
DYDDIAD CAU: 20/03/17 |
Ond, rhaid astudio o leiaf 66% o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
DYDDIAD CAU: 15/01/17 |
Ond, rhaid astudio o leiaf 33% o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
DYDDIAD CAU: 08/05/17 |
Manteision yr Ysgoloriaethau!
Awydd ymgeisio am ysgoloriaeth? Er taw’r arian yw’r fantais fwyaf wrth dderbyn yr ysgoloriaeth, mae yna fanteision eraill ar gael hefyd!
Profiad Gwaith? – Eisiau cymryd y cam cyntaf o ddatblygu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol? Cael blas o’r byd gwaith go iawn? Pam lai! Fydd e’n handi iawn ar gyfer y CV, credwch chi fi!
Tystysgrif Sgiliau Iaith? – Er mwyn profi i’r cyflogwyr eich bod yn medru ysgrifennu a siarad Cymraeg i safon brofesiynol, does dim byd yn well i brofi hyn na’r Dystysgrif yma! Mae’r dysysgrif yma wedi fy nghalluogi i sefyll allan mewn gwahanol sefyllfaoedd yn barod yn y gweithle!
EWCH AMDANI, DOES DIM ‘DA CHI I GOLLI! YMGEISWCH NAWR!