Wythnos gyntaf nol ers Pasg
Helo Bawb!
Wedi cal wythnos brysur iawn ers dod nol i Abertawe ar ôl y Pasg, felly dyma flas o be dwi wedi bod lan i yn ddiweddar. Efallai cwpwl o bethau allwch chi edrych mlan ar eu cyfer, ddarpar-fyfyrwyr!
Yn Abertawe oedd Varsity Cymru yn cael ei gynnal eleni a dwi’n hapus iawn i weud mae ni nath ennill y gem Rygbi neithiwr…sori Caerdydd. Roedd hi’n ddiwrnod prysur llawn cystadlaethau chwaraeon yn amrywio o bel droed i focsio ac yna gem rygbi yn stadiwm Liberty cyn mentro mas i Wind Street am weddill y nos! Diwrnod gwych y dyle chi edrych mlan ato pan ewch i’r brifysgol.

Nos Wener diwethaf fe es i am drip i wylio bach o gerddoriaeth byw yn Eglwys St John Canton yng Nghaerdydd. Iwan Hughes (prif lleisydd Cowbois Rhos Botwnnog) ac yna Bob Delyn a’r Ebillion (Twm Morris) oedd y ddau berfformiad. Nosweth ffantastig o ddawnsio, gwin coch a cherddoriaeth byw Gymraeg.

Tywydd braf o’r diwedd! Wedi bod yn gwario sawl noson ar y traeth (sydd ond ar draws y rheol!) yn gwneud y mwya o’r haul. Ffordd lyfli i ymlacio ar ol diwrnod o ddarlithoedd ac adolygu ar gyfer aroliadau’r haf.

Gobeithio bod hyn wedi rhoi cip olwg i chi ar fy mywyd fel myfyriwr felly pob lwc yn eich arholiadau a falle nai weld chi yn Abertawe yn mis Medi!
A cofiwch ymgeisio am yr ysgoloriaeth cymhelliant cyn yr 8fed o Fai! Peidiwch colli mas ar gyfle mor wych a buddiol! Mi fues i’n lwcus o dderbyn £1,500 gan y Coleg!