Wythnos wrth fy modd!
Am ‘steddfod i’w chofio, yn enwedig i mi fel myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth!
Cefais gyfle ar ôl cyfle i fod yn rhan o fwrlwm y byd cyfryngol drwy gydol yr wythnos!
Cefais gyfle i holi sêr y rhaglen deledu ‘OMG Ysgol ni!’, sef disgyblion Maes Garmon ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gael gwir flas ar waith newyddiadurwr drwy holi cwestiynau a phalu am y gwir ( yn enwedig am athrawon Ysgol Maes Garmon!)
Yn ogystal â hyn, cefais hefyd y cyfle i siarad yn fyw ar y radio ddwywaith yn ystod yr wythnos a hynny am waith y Coleg Cymraeg, ac am ddarpariaeth Gymraeg yr adran newyddiaduraeth ym mhrifysgol Caerdydd! Profiad bythgofiadwy!
Yn ogystal â derbyn y cyfleoedd uchod, cefais hefyd y cyfle i gwrdd â phobl newydd ar y maes, yn enwedig disgyblion chweched dosbarth sy’n dod i’r Brifysgol eleni.
Braf iawn oedd fy mhrofiad i yn y ‘steddfod!
Diolch i’r Coleg Cymraeg am y cyfle gwych!