Y llefydd i fynd allan yng Nghaerdydd!
Gyda wythnos y glas wedi dod i ben, mae’r hwyl dal i gario ‘mlaen yng Nghaerdydd!
Llio dwi, a dwi yn fy ail flwyddyn yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Gan bod fy narlithoedd yn dechrau wythnos yn gynt na rhai Prifysgolion Caerdydd, gallwch ddweud fy mod i wedi cael Pythefnos y Glas yn hytrach na Wythnos y Glas! Mae gan Caerdydd fywyd nôs gwych, ond mae’n gallu bod yn hynod o ddrud os nad wyt ti’n gwybod yn iawn lle i fynd. Yn y blog yma rwyf am roi tips i chi wybod lle i fynd bob nos er mwyn i chi gael nosweithiau allan gorau posib – heb wneud gormod o dwll yn eich poced!
Nos Lun: Pryzm (Quids in)
Rhowch eich enw ar y ‘Guestlist’ a gewch chi fynediad am £1, a mae VK’s yn £1 drwy’r nôs! Awê!
Nos Fawrth: Tiger Tiger
Ewch fan hyn am noson o R&B a Hip Hop- mae’r mynediad yn £5, ond wedyn gewch chi spirit a mixer doubles am £2, a Jaëgerbombs yn £1.50.
Nos Fercher: Metros
Cymysgedd o gerddoriaeth indie a pop o’r 90’au, mae Metros yn berffaith i gael sing along, a mae’r diodydd yn hynod o rhad- ond cofiwch gael cash allan, achos mae angen gwario o leiaf £6 i ddefnyddio cerdyn wrth y bar.
Nos Iau: Live Lounge
Mae’r mynediad am ddim, mae band byw ymlaen tan hanner nôs ac yna DJ tan 4 o’r gloch- ac mae rhai diodydd yn bunt trwy’r nôs. Live Lounge ydi’r lle perffaith i fynd am noson rhad.
Nos Wener: Clwb Ifor Bach
Fy hoff glwb nôs! Mae’n gyfle i cael gymdeithasu yn Gymraeg, ac mae gwahanol fath o gerddoriaeth ar y tri llawr gwahanol. Er hyn, dyw’r diodydd ddim yn rhad iawn, ond mae ‘na Wetherspoons dros y ffordd i gael ychydig o ddiodydd cyn mynd i mewn!
Ond cofiwch….mae’n bwysig peidio teimlo pwysau i fynd allan bob nos, a pheidiwch a meddwi gormod! Mwynhewch 🙂