**Ymateb i sylwadau am astudio Meddygaeth yn Gymraeg**

Cefais fy synnu yn ddiweddar ynglŷn ag agwedd negyddol tuag at astudio Meddygaeth yn y Gymraeg. Penwythnos diwethaf cefais sgwrs am beth o’n ni’n astudio yn y Brifysgol ac ati gydag aelod o deulu fy ffrind. Dywedais fy mod yn astudio Meddygaeth ac fe wnaeth fy ffrind ychwanegu fy mod i’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r ymateb cefais.

Pam byddet am astudio yn y Gymraeg? Pam mynd i’r holl ymdrech ychwanegol? Does dim pwrpas astudio yn y Gymraeg. Mae pawb sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg. Felly, pryd yn dy yrfa byddet ti’n defnyddio’r Gymraeg?

A dyma fy ymateb.

Mae gen i gyfnither nad oedd wedi dysgu Saesneg tan yn 6 oed. Rwyf wedi cwrdd â chleifion sy’n dioddef o ddementia sydd wedi mynd yn ôl i’w hiaith gyntaf sef y Gymraeg. Rwyf wedi gwirfoddoli yn uned anghenion arbennig ble mae’r plant yn medru cyfathrebu’n llawer gwell trwy’r Gymraeg.

Meddyliwch am y gwahaniaeth mae cael darpariaeth feddygol yn eich iaith gyntaf yn mynd i’w wneud i’r bobl hyn. Meddyliwch am faint yn llai pryderus y byddent, a faint mwy o fanylder y byddaf yn ddatgelu wrth gymryd eu hanes meddygol o ganlyniad i hyn. Mae cael darpariaeth feddygol yn y Gymraeg yn hawl nid yn fraint.

Hefyd, er fy mod i yn astudio rhan o fy ngradd yn y Gymraeg, byddaf yn graddio ac yn cymhwyso yn hollol ddwy-ieithog. Sut mae hyn fel anfantais? Hefyd mae astudio yn fy iaith gyntaf yng Nghymru yn hawl, ac rwy’n teimlo’n llawer mwy cyffyrddus yn ysgrifennu a thrafod elfennau dwys neu gymhleth o fy nghwrs yn fy mamiaith.

Mae cael gwasanaeth iechyd yn y Gymraeg yn achub bywydau ac mae’n grêt bod meddygon y dyfodol bellach yn cael y cyfle i astudio yn y Gymraeg a dysgu terminoleg newydd yn y Gymraeg er budd y claf. Dwi’n bersonol wedi sylwi’r gwahaniaeth mae cael fy nhrin yn y Gymraeg yn ei wneud. Rwy’n gallu mynegi fy hun yn well ac yn teimlo’n llawer llai nerfus.

Nid dyma’r tro cyntaf i mi gael trafodaeth o’r fath, felly penderfynais rannu fy mhrofiad ar Trydar (Twitter). Cefais lawer o ymateb gyda dros 74,000 o bobl yn ei ddarllen a dros fil o bobl yn ei hoffi neu rannu hyd yn hyn. Rhannodd nifer o bobl straeon am yr ymatebion maent yn gael am astudio yn y Gymraeg a nifer yn sôn am y buddiannau o gael darpariaeth Feddygol yn y Gymraeg a sut y mae nhw neu eu teuluoedd wedi elwa ohono. Yn ogystal, cefais gyfle i drafod am fy mhrofiad ar Daro’r Post ar Radio Cymru ble cafodd nifer o safbwyntiau eraill eu crybwyll.

Fel mae’n ddweud ar Trydar, mae bod yn ddwyieithog yn sgil, mae’n fraint ond yn hawl. Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i’w gwarchodi a’i defnyddio. Rwy’n falch o’m gallu i siarad/cyfathrebu ac astudio yn y Gymraeg ac mae’r iaith yn rhan hanfodol o’n darpariaeth yn y GIG yma yng Nghymru.

Diolch i Brifysgol Caerdydd ac i’r Coleg Cymraeg am y fraint o gael astudio yn y Gymraeg.

Twitter: @walterschelsie1