“Ddylwn i ymgeisio am Brif Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu beidio?”
Does dim dwywaith, dylech.
Beth sydd ar gael? Mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallech dderbyn Prif Ysgoloriaeth sef £3000 dros dair blynedd pe baech yn astudio o leiaf 80 credyd (66%) o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth sydd angen ei wneud?

- Y cam cyntaf yw ymaelodi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – dylech wneud hyn hyd yn oed os ydych yn penderfynu peidio â cheisio am ysgoloriaeth, mae’n werthfawr iawn!
- Erbyn hyn, dylech fod wedi dewis cwrs/cyrsiau y hoffech wneud yn y brifysgol. Felly defnyddiwch Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg i weld os yw’ch cwrs yn gymwys ar gyfer ysgoloriaeth. Gallech ddefnyddio gwefan y Coleg Cymraeg neu lawr lwytho ap ar Android neu IOS.
- Darllenwch yr holl wybodaeth sydd ar gael am y Brif Ysgoloriaeth.
- Lawr lwythwch ffurflen gais a’i dychwelyd i gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk cyn 15 Ionawr 2016.
Mae amodau i dderbyn yr arian ond nid yw’r amodau hyn yn ddibwynt. Maen nhw i gyd yn agor drysau ichi.
- Astudio o leiaf 80 credyd (66%) trwy’r Gymraeg,
- Sefyll arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg rhywbryd yn ystod y 3 blynedd,
- Cwblhau 10 diwrnod o brofiad gwaith.
Mae astudio trwy’r Gymraeg wedi rhoi dealltwriaeth well i mi o’m pwnc, bydd y dystysgrif yn dangos i gyflogwyr y gallaf ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol ac mae angen profiad gwaith ar bawb er mwyn bod yn llwyddiannus ar ôl gadael y brifysgol.
Ond, rwy’n becso am safon fy iaith…
Gan fy mod yn dod o gefndir di-gymraeg ac wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith, rwy’n cydymdeimlo â’r pryderon hyn. Ond, yn wir, does dim rhaid becso o gwbl. Mae digon o gymorth ar gael yn y brifysgol. Nid yw astudio trwy’r Gymraeg wedi fy rhwystro, mewn gwirionedd mae wedi datblygu fy sgiliau iaith a, fel dywedais, fy helpu i ddeall fy mhwnc yn well.
Felly ewch amdani! Does dim byd i’w golli, ond mae llawer i’w ennill. Pob lwc!