Ymweld â fy nghyn-ysgol…fel llysgennad.
Heddiw, cefais gyfle i ymweld â fy nghyn-ysgol…Ysgol Syr Hugh Owen fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg. Dwi’n cofio fi, yn eistedd fel disgybl ysgol yn derbyn y cyflwyniad yma gan y Coleg Cymraeg, a bellach, mi roeddwn yn yr union neuadd yn cyflwyno cyflwyniad i ddisgyblion y chweched. Roedd yn brofiad gwych cael profi’r ddwy ochr, ond heddiw cefais gyflwyno fy mhrofiadau i o dderbyn ysgoloriaeth, bod yn lysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac astudio fy nghwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n bwysig eich bod chi sydd yn y chweched, neu mewn colegau yn edrych yn fanwl ar eich dewis gyrfaoedd, a cofiwch fod y Coleg Cymraeg ar gael i’ch helpu chi i barhau gyda’ch astudiaethau drwy’r Gymraeg a ‘Mynnu dysgu yn eich iaith”.

TOP TIPS I’CH HELPU
- Ymaelodwch a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cofiwch baratoi ar amser (Prosbectws, Diwrnodau agored, Siarad gyda’ch athrawon/mentoriaid)
- Lawrlwythwch Ap “Chwilotydd Cyrsiau” yn rhad ac am ddim gan y Coleg Cymraeg
- Ewch ar wefan y Coleg Cymraeg am fwy o fanylion
- Ymgeisiwch am y brif ysgoloriaeth, ysgoloriaeth cymhelliant a William Salesbury
- Mynnwch ddysgu yn eich mamiaith
Yma yng Nghymru, mae’n gystadleuaeth am swyddi, ond os oes ganddoch chi’r gallu i gyfathrebu yn ddwyieithog ar lefel broffesiynol, mae’n siawns llawer gwell i chi ar gyfer eich dyfodol a’ch gyrfaoedd. Felly, ewch amdani a mynnwch ddysgu yn eich iaith!
.