Ymweliadau ysgolion!
Awydd clywed mwy am gyrsiau Prifysgolion? Wedi clywed llawer am y Coleg Cymraeg, ond ddim yn gwybod beth rydyn ni’n ei gynnig? Eisiau astudio ym mhellach yn y Gymraeg?
Os ydych chi’n ateb ‘ydw’ i’r cwestiynau uchod- gwahoddwch ni i’ch ysgol chi!
Cewch gyfle i glywed am :
*Ysgoloriaethau (HYD AT £5000 O BUNNOEDD!)
* Pam ei bod hi’n fanteisiol i astudio yn y Gymraeg!
*Am y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael, neu am gyrsiau sy’n rhannol drwy’r Gymraeg.
*Cewch glywed persbectif myfyrwyr presennol gan ein Llysgenhadon- Cyfle i holi’r pethau rych chi wir angen eu gwybod!
Sut beth yw rhannu tŷ gyda bechgyn a merched? Sut le yw’r Brifysgol? Pa weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael? Pa mor dda yw’r partïon a’r tripiau rygbi? (Y cwestiwn pwysicaf mae’n siwr!)
Rhowch y llysgenhadon ar flaen eu traed gan graffu am storïau a phrofiadau doniol o’r Brifysgol.

*Cewch hefyd gyfle i fynd â gwybodaeth adref i’ch rhieni! Pa beth gwell na throsglwyddo un dudalen iddynt, yn hytrach nag ateb cant a mil o gwestiynau?
*Os nad oes gennych unrhyw syniad ynglŷn â’r ffurflen UCAS neu’ch datganiad personol chwaith, cewch gyfle i ofyn am gymorth gan ein staff profiadol, neu well, ein llysgenhadon, sydd newydd fod drwy’r broses eu hunain!
Dyma eich cyfle chi i ddysgu fwy am fywyd Prifysgol- Peidiwch a cholli’r cyfle!